Colombia

Colombia
Gweriniaeth Colombia
República de Colombia (Sbaeneg)
ArwyddairRhyddid a Threfn Edit this on Wikidata
Mathgwladwriaeth sofran, gweriniaeth, gwladwriaeth seciwlar, gwlad Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlChristopher Columbus Edit this on Wikidata
PrifddinasBogotá Edit this on Wikidata
Poblogaeth49,065,615 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd20 Gorffennaf 1810 (Datganiad o Annibyniaeth (oddi wrth Sbaen)
AnthemHimno Nacional de la República de Colombia Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethGustavo Petro Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC−05:00, America/Bogota Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Sbaeneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolAmerica Ladin, De America, America Sbaenig, Ibero-America Edit this on Wikidata
GwladColombia Edit this on Wikidata
Arwynebedd1,141,748 ±1 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr223 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaEcwador, Panamâ, Periw, Feneswela, Brasil, Nicaragwa Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau4°N 73.25°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolLlywodraeth Colombia Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholCynghres Colombia Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Arlywydd Colombia Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethGustavo Petro Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Arlywydd Colombia Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethGustavo Petro Edit this on Wikidata
Map
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$318,512 million, $343,939 million Edit this on Wikidata
ArianColombian peso Edit this on Wikidata
Canran y diwaith9.4 canran Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant1.897 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.752 Edit this on Wikidata

Gwlad yng ngogledd-orllewin De America yw Gweriniaeth Colombia neu Colombia (Sbaeneg: República de Colombia, /re'puβ̞lika ð̞e ko'lombja/). Mae'n ffinio â Feneswela a Brasil i'r dwyrain, Ecwador a Pheriw i'r de, y Cefnfor Iwerydd i'r gogledd (trwy Fôr y Caribî), a Phanama a'r Cefnfor Tawel i'r gorllewin. Colombia yw'r unig wlad yn Ne America gydag arfordiroedd â'r Cefnforoedd Iwerydd a Thawel.

Colombia yw'r wlad fwyaf ond tri yn Ne America yn nhermau arwynebedd (yn dilyn Brasil, yr Ariannin a Pheriw), a'r mwyaf ond un yn nhermau poblogaeth (yn dilyn Brasil). Mae'r mwyafrif o Golombiaid yn byw yng ngorllewin mynyddig y wlad, lle lleolir y brifddinas Bogotá a'r rhan fwyaf o ddinasoedd eraill. Mae daearyddiaeth amrywiol gan Golombia, o gopaon eiraog yr Andes i wastatiroedd twym, llaith Afon Amazonas.

Am y pedair degawd diwethaf, dioddefa Colombia gwrthdaro arfog ar raddfa fechan sy'n cynnwys mudiadau gwrthryfelwyr herwfilwrol, milisiâu, a masnachu cyffuriau. Dechreuodd y gwrthdaro tua 1964-1966, pan sefydlwyd yr FARC a'r ELN a dechreuont eu hymgyrchoedd gwrthryfelgar herwfilwrol yn erbyn y llywodraethau olynol. Ers etholiad Álvaro Uribe fel Arlywydd Colombia, mae sefyllfa diogelwch y wlad wedi gwella rhywfaint.


Developed by StudentB