Continiwm tafodiaith

Ieithoedd Romanws Ewrop. Yn hanesyddol mae ieithoedd Romáwns y Gorllewin yn cynrychioli continwwm tafodieithol parhaus. Yn y dwyrain, mae brown yn dynodi ardal ynysig Dwyrain Romanésg

Mae continwwm tafodiaith hefyd tafodiaith barhaus a hefyd continiwm iaith (er gall y term 'continiwwm iaith' hefyd gyfeirio at daith unigolyn wrth gaffael iaith yn ystod bywyd neu gyrfa y person hwnnw) yn set o amrywiaethau iaith a siaredir mewn tiriogaethau cyfagos, gyda gwahaniaethau bach mewn ardaloedd sy'n gyfagos, a chyd-ddeallusrwydd yn lleihau gyda phellter cynyddol, nes bod dim modd i siaradwyr deall ei gilydd. Yn y modd hwn, gall dwy iaith a ystyrir yn ieithoedd ar wahân gael set o dafodieithoedd sy'n pontio'r ddwy, heb golli'r deallusrwydd olynol mewn unrhyw achos. Gall continwwm tafodieithol ddiflannu pan fydd yn dameidiog oherwydd difodiant tafodieithoedd canolradd o ganlyniad i atgyfnerthu un neu fwy o'r tafodieithoedd hyn i ieithoedd safonol. Mewn sawl enghraifft yn Affrica, fe benderfynwyd bod tafodieithoedd o'r un continiwm tafodieithol yn ieithoedd gwahanol - gweler gwaith Kwesi Kwaa Prah.


Developed by StudentB