Corn Affrica

Corn Affrica
Mathgorynys Edit this on Wikidata
Poblogaeth115,000,000 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladEthiopia, Somalia, Eritrea, Jibwti Edit this on Wikidata
Arwynebedd2,000,000 km² Edit this on Wikidata
GerllawY Môr Coch, Môr Arabia, Gwlff Aden Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau9.5°N 48°E Edit this on Wikidata
Map
Gwledydd Corn Affrica

Rhanbarth yng ngogledd-ddwyrain Affrica yw Corn Affrica sy'n cynnwys gwledydd Eritrea, Ethiopia Jibwti,, a Somalia.[1] Mewn ystyr ddaearyddol, ceir diffiniad cul sy'n gyfystyr â Phenrhyn Somalia, hynny yw Somalia a dwyrain Ethiopia yn unig. Hwn yw pentir mwyaf dwyreiniol y cyfandir. Cynhwysir  rhannau o Genia, Swdan, De Swdan ac Wganda gan ddiffiniadau ehangach sy'n cysylltu hanesion y bobloedd a diwylliannau hyn.[2] Rhennir Gwlff Aden oddi ar Gefnfor India gan Gorn Affrica, a lleolir gorynys Arabia ar ochr draw'r culfor. Mae'r penrhyn yn ymwthio allan tua 100 km i Fôr Arabia, ac mae'n gorwedd ar hyd ochr ddeheuol Gwlff Aden. Y Sahel sydd i ogledd y Corn.

Daearyddiaeth a chymdeithas hynod o amrywiol sydd yng Nghorn Affrica, gan gynnwys Ucheldiroedd Ethiopia, diffeithwch yr Ogaden, ac arfordiroedd Eritrea a Somalia, ac yn gartref i nifer fawr o bobloedd gan gynnwys yr Amhara, y Tigray, yr Oromo, a'r Somaliaid. Mae'r mwyafrif ohonynt yn siarad ieithoedd Affro-Asiaidd ac yn Fwslimiaid neu'n Gristnogion. O ganlyniad i leoliad yr ardal, bu hanes hir o gysylltiadau ag Arabia, yr Aifft, a De Orllewin Asia.

  1. Michael Hodd, East Africa Handbook 7fed argraffiad, (Passport Books, 2002), t. 21
  2. (Saesneg) Horn of Africa. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 22 Hydref 2018.

Developed by StudentB