Cwarc

Proton, wedi ei wneud allan o hyd at ddau cwarc 'u' (fyny) ac un cwarc 'd' (lawr)

Math o ronynnau sylfaenol ydy cwarc (Saesneg: Quarks) ac yn rhan bwysig o'r gynhysgaeth sy'n gwneud mater. Unant gyda'i gilydd i greu gronynnau cyfansawdd a elwir yn hadronau, y mwyaf sefydlog ohonynt, mae'n debyg, yw'r proton a'r niwtron. Y rhain ydy'r unig ronynnau yn y Model Sylfaenol ('Standard Model') sy'n profi grym cryf arnynt, ac felly, nhw ydy'r unig ronynnau sy'n profi'r pedwar grym sylfaenol.[1] Oblegid y ffenomenon hwnnw a elwir yn color confinement, ni cheir byth gwarcs unigol; maen nhw wastad i'w canfod o fewn yr hadron.[2][3] Oherwydd hyn, mae llawer iawn o'r hyn a wyddom am y cwarc yn dod o'n hastudiaeth o'r hadron.

Credid unwaith bod niwtronau, protonau ac electronau yn ronynnau sylfaenol. Ni all gronynnau sylfaenol cael eu torri ymhellach. Darganfuwyd fod hyn yn anghywir yn dilyn defnydd cyflymydd gronynnol.

Er bod electronau yn ronynau sylfaenol, nid yw protonau a niwtronau. Mae'r rhain yn baryonau sy'n cynnwys cwarciau.

  1. "Quark (subatomic particle)". Encyclopædia Britannica. Cyrchwyd 2008-06-29.
  2. R. Nave. "Confinement of Quarks". HyperPhysics. Georgia State University, Department of Physics and Astronomy. Cyrchwyd 2008-06-29.
  3. R. Nave. "Bag Model of Quark Confinement". HyperPhysics. Georgia State University, Department of Physics and Astronomy. Cyrchwyd 2008-06-29.

Developed by StudentB