Math o saws melyn, melys a fwyteir i bwdin ydy cwstard. Mae'n gymysgedd o laeth, melynwy wedi'u curo, siwgr a chynhwysion eraill e.e. hufen, blawd, neu fanila i'w flasu. Gall fod yn hylif, tenau rhedegog e.e. Crème anglaise neu'n dew e.e. math o gwstard yw crème pâtissière a ddefnyddir y tu fewn i éclairs.
Fel arfer, fe'i gwneir mewn sosban, er y gellir hefyd defnyddio bain-marie. Mae'n bosib gor-goginio'r cwstard, sydd fel arfer yn twchu pan fo'r tymereddd yn cyrraedd 70 °C a gall orgoginio pan fo'r tymheredd yn 70 °C.[1] Defnyddir llestr o ddŵr i drosglwyddo gwres yn araf a'i symud o'r gwres pan fo wedi cyrraedd ei dymheredd cywir, a chyn iddo geulo.[2]
Yn draddodiadol yng Nghymru, ceir dau brif fath: cwstard wedi'i wneud gyda blawd neu india corn mewn sosban a chwstard ŵy, a wneir fel arfer yn araf mewn popdy, ar dymheredd is.
Defnyddiwyd cymysgedd o wyau a llaeth wedi'i twchu gan wres ers yr Oesoedd Canol yn Ffrainc, ac oddi yno y daw'r gair. Mae'n tarddu o'r gair Ffrangeg croustade, neu grwstyn,[3] sy'n tarddu o'r gair Lladin crustāre[4]