Math | cyfaint, meintiau deilliadol ISQ, maint ymestynnol, meintiau sgalar, maint corfforol, additive quantity, geometric measure |
---|---|
Rhagflaenwyd gan | arwynebedd |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cyfaint ydy'r term mathemategol am faint o le neu ofod mae gwrthrych yn ei gymeryd, neu faint sydd oddi fewn iddo. Gall y gwrthrych fod yn solid, hylif, nwy neu blasma [1] ac sy'n cael ei gyfri drwy unedau safonol y fetr ciwb.
Mae'n ddigon hawdd gweithio cyfaint siapau rheolaidd, syml sydd ag ymylon syth iddyn nhw a gellir cyfrifo cyfaint siapau crwm hefyd yn ddigon hawdd drwy fformiwla syml. Gellir cyfrifo cyfaint solid afreolaidd drwy ddadleoliad (Sa: displacement).