Mewn mathemateg, mae cyfanrifau yn rhifau cyfan (nid ffracsiynau) o set o rifau naturiol a rhifau negatif:
Mae 21, 4, 0, a −2048 felly, yn gyfanrifau, ond nid felly 9.75, 5 1/2, na √2. Dynodir cyfanrifau, fel arfer, gan Z ("Z") trwm neu (Unicode U+2124 ℤ) sy'n tarddu o'r gair Almaeneg Zahlen ([ˈtsaːlən], "rhif").[1][2]
Mewn geiriau eraill, mae Z yn is-set o bob rhif cymarebol Q, sydd yn ei dro'n is-set o'r rhifau real R. Fel y rhifau naturiol, mae'r cyfanrifau Z yn anfeidraidd.
Mewn cyfrifiadureg, mae cyfanrif yn fath o newidyn a ddefnyddir i ystorio gwerth cyfan; newidyn pwynt symudol ydy'r gwrthwyneb.