Cyfansoddiad

Cyfres o egwyddorion sylfaenol neu gynseiliau sydd wedi'u sefydlu a ddefnyddir i reoli gwlad neu sefydliad o ryw fath ydy cyfansoddiad.[1][2] Y rheolau hyn yw sail yr uned hwnnw. Pan fo'r egwyddorion hyn yn ysgrifenedig mewn dogfen neu gyfres o ddogfennau cyfreithiol, gelwir y dogfennau hynny yn gyfansoddiad ysgrifenedig.

  1. Lewis, Robyn. Termau Cyfraith (Llandysul, Gwasg Gomer, 1972), t. 43.
  2. The New Oxford American Dictionary, Second Edn., Erin McKean (editor), 2051 pages, May 2005, Oxford University Press, ISBN 0-19-517077-6.

Developed by StudentB