Cyhoeddiad sy'n ymddangos ar ffurf argraffiad newydd yn gyson ar ben rhyw amser penodol yw cyfnodolyn,[1] cylchgyhoeddiad,[2] cyhoeddiad cyfnodol,[3] cyhoeddiad cylch[yn]ol,[3] llenyddiaeth gyfnodol[4] neu lenoriaeth gyfnodol.[5] Mae papurau newydd, cylchgronau, cyfnodolion academaidd, cyfnodolion llenyddol, a blwyddlyfrau i gyd yn enghreifftiau o gyfnodolion.
Yn ôl y diffiniad modern gan UNESCO: "Ystyrir cyhoeddiad yn gyfnodolyn os yw'n cynnwys un rhifyn mewn cyfres barhaol o dan yr un teitl, a gyhoeddir o dro i dro yn gyson neu'n anghyson, dros gyfnod amhendant, a rhifir rhifynnau unigol y gyfres yn olynol neu'n dwyn dyddiad."[6]
Mae nifer o gyfnodolion a gyhoeddir mwy nag unwaith y flwyddyn yn defnyddio'r system "Cyfrol, Rhifyn" o rifo'r argraffiadau: mae cyfrol yn cyfeirio at y nifer o flynyddoedd a gyhoeddir y cyfnodolyn, a'r rhifyn yn cyfeirio at faint o weithiau fe'i gyhoeddir yn ystod y flwyddyn honno.