Cyfrifiad blaenorol | Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2001 |
---|---|
Cyfrifiad nesaf | Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2021 |
Ardal | Deyrnas Unedig |
Awdurdod | Swyddfa Ystadegau Gwladol |
Dyddiad y Cyfrifiad | 27 Mawrth 2011 |
Cynhaliwyd cyfrifiad ym mhob rhan o'r DU, a adnabyddir yn gyffredinol fel Cyfrifiad 2011, ar ddydd Sul 27 Mawrth 2011. Hwn oedd yr 20fed cyfrifiad yn y Deyrnas Unedig. Trefnwyd y Cyfrifiad gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yng Nghymru a Lloegr a gan Swyddfa Gofrestru Gyffredinol yr Alban yn yr Alban a gan Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon yng Ngogledd Iwerddon. Mae canlyniadau manwl yn ôl ardal, ardal cyngor, ward ac ardal allbwn ar gael ar eu gwefannau perthnasol.
Rhyddhawyd y canlyniadau cyntaf, sef amcangyfrifon am oedran, rhyw a deiliaid tai, ar 16 Gorffennaf 2012.[1], a dilynwyd hyn gyda gwybodaeth manylach ar 11 Rhagfyr 2012.[2] Daw rhagor o fanylion yn y misoedd hyd at Hydref 2013.
Y ddau fater llosg sy'n deillio o'r wybodaeth hon parthed Cymru yw: lleihad yn y niferoedd sy'n siarad Cymraeg a lleihad yn y niferoedd sy'n nodi eu crefydd fel "Cristion".