Cyfrifiadureg

Astudiaeth o'r seiliau damcaniaethol a chymhwysir mewn cyfrifiaduron yw Cyfrifiadureg. Mae sawl maes gwahanol o fewn y pwnc, rhai yn pwysleisio cyfrifo canlyniadau penodol (megis graffeg cyfrifiadurol), rhai (megis theori cymhlethdod cyfrifiadurol) yn ymwneud â phroblemau cyfrifiannol, ac eraill yn canolbwyntio ar yr heriau mewn gweithredu cyfrifiannau. Er enghraifft, bwriad astudiaethau theori ieithoedd rhaglennu yw disgrifio cyfrifiannau, tra bod rhaglennu cyfrifiaduron yn cymhwyso ieithoedd rhaglennu i ddatrys problemau cyfrifiadurol penodol.


Developed by StudentB