Term technegol am gyfrif yw cyfrifo (Saesneg: calculate), sy'n broses o newid un neu ragor o fewnbynnau yn ganlyniad/au. Gall ystyr y term fod yn amrwyiol iawn, yn ddibynnol ar y cyd-destun: o'r defnydd arbenigol, fathemategol o'r algorithm i'r defnydd bob dydd o gyfrifo'r siawns ei bod am lawio fory.
Er enghraifft, mae lluosi 2 gyda 4 yn gyfrifo syml, algorithmig. Weithiau ceir cyfrifiad sy'n rhoi mwy nag un canlyniad e.e. byddai rhagweld canlyniad etholiad yn rhoi sawl canlyniad posib, yn hytrach nag un.
Daw'r term o'r hen air Cymraeg "cyfrif", a roddodd nifer o eiriau i ni: cyfrifeg ym maes arian, cyfrifiannell sy'n declyn hwylus i gyfri, cyfrifiadur ym maes technoleg gwybodaeth, y cyfrifiad sy'n cofnodi poblogaeth a chyfrif banc. Ymddengys y gair am y tro cyntaf mewn llawysgrif o'r 14g, sef Llyfr Gwyn Rhydderch, lle cofnodir chwedlau'r Mabinogi:
Daw'r gair Saesneg, ar y llaw arall o'r Lladin calculus a olygai'n wreiddiol y garreg fechan a geir weithiau o fewn y goden fustl. Carreg debyg i hon a ddefnyddid i gyfrif, fel a gweir ar yr abacws, sef y teclyn cyntaf i gyfrifo.
Gellir cyfrifo rhif neu swm, neu broblem haniaethol, gan ddefnyddi rhesymeg, rhesymu neu synnwyr cyffredin, drwy gyfrifo amcangyfrif![1]
Calculate yw'r term Saesneg, sy'n dod o'r u gwreiddyn â 'calcwlws', sef y gair Lladin calx (calch yn Gymraeg), sef lwmpyn o garreg calchfaen a ddefnyddid ar yr abacws i gyfrifo.
Mae cyfrifo'n hanfodol, ac yn sylfaen i gyfrifiant.[2][3]