Cyfryngau'r Unol Daleithiau a Rhyfel Fietnam

Cyfryngau'r Unol Daleithiau a Rhyfel Fietnam
Enghraifft o'r canlynolmedia coverage Edit this on Wikidata
GwladwriaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata

"Daeth teledu â chreulondeb rhyfel i gysur yr ystafell fyw. Collwyd Fietnam mewn ystafelloed byw America—nid ar feysydd brwydr Fietnam."

Rhyfel Fietnam oedd "y rhyfel teledu cyntaf": y tro cyntaf i fwyafrif o boblogaeth yr Unol Daleithiau weld rhyfel ar raglenni newyddion eu setiau teledu. Mae rôl y cyfryngau newyddion Americanaidd yn y rhyfel yn bwnc dadleuol. Yn ôl y feirniadaeth draddodiadol gan gefnogwyr y rhyfel a'r cadfridogion Americanaidd, yr oedd tuedd ryddfrydol gan y cyfryngau a wnaethant portreadu ymdrech filwrol yr Americanwyr yn Fietnam mewn modd negyddol ac annheg, ac o ganlyniad cynyddodd gwrthwynebiad i'r rhyfel. Mae eraill yn dadlau y wnaeth cyfryngau newyddion yr Unol Daleithiau adlewyrchu'r twf mewn gwrthwynebiad y cyhoedd i'r rhyfel, nid siapio barnau'r cyhoedd.


Developed by StudentB