Cymbrieg | ||
---|---|---|
Siaredir yn | De'r Alban, Cumberland, rhannau Westmorland o Northumberland, Swydd Gaerhirfryn ac efallai Gogledd Swydd Efrog | |
Difodiant iaith | 11g–12g [1] | |
Teulu ieithyddol | Indo-Ewropeaidd | |
Codau ieithoedd | ||
ISO 639-1 | Dim | |
ISO 639-2 | – | |
ISO 639-3 | xcb | |
Wylfa Ieithoedd | – |
Cymbrieg neu Cymbreg oedd cangen o Frythoneg yr Hen Ogledd – sef tiriogaethau'r Brythoniaid yn yr ardaloedd sydd bellach yn rhan o dde'r Alban a gogledd Lloegr. Yn nhyb y mwyafrif o ieithegwyr, bu farw'r Gymbreg cyn y 12g neu’r 13g wedi cwymp Teyrnas Ystrad Clud a’i rhannu rhwng yr Alban a Lloegr.
Mae ei statws ieithyddol yn ddadleuol. "Tafodiaith Frythonig debyg i'r Gymraeg" yw cynnig y Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru,[2] er enghraifft. Nid yw’n glir ai fel iaith ar wahân neu fel tafodiaith o'r Frythoneg yn perthyn yn agos i Hen Gymraeg yn unig y dylid ystyried Cymbrieg. Gwahanwyd ardaloedd Brythoneg eu hiaith yr Hen Ogledd oddi wrth deyrnasoedd Brythonaidd Cymru ar ôl brwydr Caer ym 616, er y bu cysylltiadau rhwng teyrnas Gwynedd ac Ystrad Clud ar y môr hyd y Canol Oesoedd. Mae'n anodd profi bod unrhyw wahaniaethau mawr rhwng y Gymraeg a Chymbrieg o'r dystiolaeth enwau lleoedd sy'n edrych mwy neu lai yn rhai Cymraeg.
Yn y 10g yr oedd ymosodiadau'r Llychlynwyr yn ffyrnig iawn a bu'n hallt iawn ar y Saeson yng ngogledd Lloegr a chollasant eu grym ar nifer o ardaloedd a fu gynt o dan eu hawdurdod. Mae'n bosibl bod y Gymbrieg yn dal ar lafar yn yr ardaloedd hyn ond gwelwyd ymestyn nerth teyrnas Ystrad Clud (a oedd yn dal o dan dywysogion Cymbrieg eu henwau) yn y 10g i gynnwys rhannau o Lleuddion yn ogystal ag Ystrad Clud ei hun, glannau deheuol Llyn Llumon, "Swydd Llannerch" (Lanarkshire), "Swydd Dinprys" (Dumfriesshire), "Swydd Pebyll" (Peeblesshire), Swydd Aeron (Ayrshire), Swydd Cumberland - sef ardal Caerliwelydd gan gynnwys Ystrad Iddon (Eden Valley), Ystrad Alun (Allerdale) a rhannau o Swydd Westmorland.[3][4][5]
Dywedir yn draddodiadol bod ffiniau gwreiddiol Esgobaeth Caerliwelydd yn dynodi ffiniau Teyrnas Ystrad Clud yn Lloegr a rhai Esgobaeth Glasgau yn eu dynodi yn yr Alban.
Nid oes testun ysgrifenedig Cymbrieg ar glawr ac mae'r dystiolaeth yn dod o enwau lleoedd, rhai termau cyfreithiol,[6] a rhai geiriau yn nhafodieithoedd Saesneg ardaloedd a fu unwaith yn rhan o'r Hen Ogledd.