Cymraeg ( gwrando ) | ||
---|---|---|
Siaredir yn | Cymru Yr Ariannin | |
Rhanbarth | Siaredir ar draws Cymru gyfan a rhanbarth Chubut ym Mhatagonia yn yr Ariannin. | |
Cyfanswm siaradwyr | 721,700 o siaradwyr (2011): — Cymru: 562,000 o siaradwyr, tua 19.7% o boblogaeth Cymru (pob sgil),[1] gyda 14.6% (431,000) yn ystyried eu hunain yn rhugl — Lloegr: 150,000 [2] — Talaith Chubut, yr Ariannin: 12,500-25,000 [3] — UDA: 2,500 [4] — Canada: 2,200 [5] | |
Teulu ieithyddol | Indo-Ewropeaidd | |
System ysgrifennu | Yr wyddor Ladin (Amrywiolyn Cymru) | |
Statws swyddogol | ||
Iaith swyddogol yn | Cymru | |
Rheoleiddir gan | — Llywodraeth Cymru — Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg (ers 1 Ebrill 2019)[6] | |
Codau ieithoedd | ||
ISO 639-1 | cy | |
ISO 639-2 | wel (B) | cym (T) |
ISO 639-3 | cym | |
Wylfa Ieithoedd | 50-ABA | |
Cymraeg |
---|
WiciBrosiect Cymru |
Aelod o'r gangen Frythonaidd o'r ieithoedd Celtaidd a siaredir yn frodorol yng Nghymru, gan Gymry a phobl eraill ar wasgar yn Lloegr, a chan gymuned fechan yn Y Wladfa, yr Ariannin[7] yw'r Gymraeg (hefyd Cymraeg heb y fannod).
Yng Nghyfrifiad y DU (2011), darganfuwyd bod 19% (562,000) o breswylwyr Cymru (tair blwydd a throsodd) yn gallu siarad Cymraeg. O'r ffigwr hwn, darganfuwyd bod 77% (431,000) yn gallu siarad, darllen, ac ysgrifennu'r iaith; dywedodd 73% o breswylwyr Cymru (2.2 miliwn) fod dim sgiliau yn y Gymraeg ganddynt.[8] Gellir cymharu hwn â Chyfrifiad 2001, a ddarganfu fod 20.8% o'r boblogaeth yn gallu siarad Cymraeg, gyda 57% (315,000) o'r ffigwr hon yn dweud eu bod yn rhugl yn yr iaith.[9]
Mae'r Gymraeg yn un o'r 55 o ieithoedd i gael eu cynnwys fel cyfarchiad ar Record Aur y Voyager er mwyn cynrychioli'r Ddaear yn rhaglen Voyager NASA a lansiwyd ym 1977.[10] Mae pob cyfarchiad yn unigryw i'r iaith, a dywed y Gymraeg "Iechyd da i chwi yn awr ac yn oesoedd".[11]
Mae Mesur y Gymraeg 2011 (Cymru) yn rhoi statws swyddogol i'r Gymraeg yng Nghymru,[12] lle mai'r Gymraeg yw'r unig iaith Geltaidd sydd yn swyddogol de jure mewn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig.