Ffotograff o’r llawfeddyg William Thelwall Thomas a'i gyfeillion (tua 1882). | |
Cyfanswm poblogaeth | |
---|---|
6–16.3 miliwn[1] | |
Ardaloedd gyda niferoedd sylweddol | |
Cymru: 2 miliwn[2] | |
Ieithoedd | |
Cymraeg, Saesneg | |
Crefydd | |
Cristnogaeth yn bennaf | |
Grwpiau ethnig perthynol | |
Cernywiaid, Llydawyr, Albanwyr, Gwyddelod, Manawyr |
Cenedl a grŵp ethnig yw'r Cymry sydd yn gysylltiedig â'r iaith Gymraeg ac yn frodorion gwlad Cymru. Maent yn bobl Geltaidd ac yn un o genhedloedd Ynysoedd Prydain ac Iwerddon. Mae cenedl y Cymry yn un o'r rhai hynaf yn Ewrop, gyda'i hanes yn mynd yn ôl i amser yr hen Geltiaid.
Fel cenedl Geltaidd, mae'r Cymry yn perthyn yn hanesyddol ac yn ddiwylliannol i'r Cernywiaid, y Llydawyr, y Gwyddelod, yr Albanwyr, a'r Manawyr. Ers cread y genedl yn oes y rhyfeloedd rhwng y Brythoniaid a'r Eingl-Sacsoniaid, bu hanes hir o wrthdaro, gelyniaeth, cydweithrediad, cyfeillgarwch, a chyd-ddibyniaeth rhwng y Cymry a'r Saeson.
Hyd at ddiwedd y 19g, roedd y mwyafrif helaeth o Gymry yn siarad yr iaith Gymraeg yn unig. Yn ogystal â'r newidiadau ieithyddol yng Nghymru, mae mewnlifiad gan grwpiau ethnig allanol wedi trawsnewid demograffeg y wlad o ran hil a chrefydd. Mae ystyr yr enw Cymry wedi newid pan yn cyfeirio at genedligrwydd sifig, ac yn crybwyll y newydd-ddyfodiaid hyn sydd yn mabwysiadu hunaniaeth Gymreig. Mae'r rhai a aned yng Nghymru yn meddu ar ddinasyddiaeth Brydeinig; nid oes diffiniad swyddogol o genedligrwydd Cymreig.