Enghraifft o'r canlynol | ecumenical council |
---|---|
Dyddiad | 325 |
Dechreuwyd | Mai 325 |
Daeth i ben | Gorffennaf 325 |
Olynwyd gan | Cyngor Cyntaf Caergystennin |
Lleoliad | Nicaea |
Prif bwnc | Cristoleg, Ariadaeth, date of Easter, Viaticum |
Enw brodorol | Σύνοδος τῆς Νῑκαίᾱς |
Gwladwriaeth | Rhufain hynafol |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cyngor Cyntaf Nicaea (neu Nicea) yn 325 OC oedd cyngor eciwmenaidd cyntaf yr eglwys Gristnogol. Galwyd y cyngor gan yr ymerawdwr Rhufeinig Cystennin I, ac fe'i cynhaliwyd yn Nicaea yn nhalaith Bithynia (İznik, Twrci heddiw). Crewyd Credo Nicaea, y credo Cristnogol cyntaf.
Prif bwrpas y Cyngor oedd dyfarnu ar ddadl o fewn eglwys Alexandria. Roedd Alexander o Alexandria ac Athanasius yn credu fod Iesu o'r un sylwedd (ousia) a Duw y Tad, tra'r oedd Arius, sylfaenydd cred Ariaeth, yn credu ei fod o slwedd debyg ond nid yr un faeth. Dyfarnodd y Cyngor yn erbyn yr Ariaid.
Penderfyniad arall y Cyngor oedd dechrau cynnal gŵyl i ddathlu'r Atgyfodiad ac ymddangosiad Crist wedi'r Argyfodiad, Pascha mewn Groeg, neu'r Pasg.