Enghraifft o'r canlynol | cynhadledd |
---|---|
Dechreuwyd | 18 Ebrill 1955 |
Daeth i ben | 24 Ebrill 1955 |
Rhagflaenwyd gan | Asian Relations Conference |
Olynwyd gan | Brioni Meeting |
Lleoliad | Bandung |
Gwladwriaeth | Indonesia |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cyfarfod o ddiplomyddion o nifer o wledydd Asia ac Affrica oedd Cynhadledd Bandung a gynhaliwyd yn ninas Bandung ar ynys Gorllewin Jawa, Indonesia, o 18 Ebrill i 24 Ebrill 1955. Trefnwyd y gynhadledd gan lywodraethau Indonesia, Byrma, Seilón, India, a Phacistan, a chynrychiolwyd y rhan fwyaf o boblogaeth y byd gan ddirprwyon o 29 o wladwriaethau a thiriogaethau.[1]
Ailddatganwyd gan Gynhadledd Bandung y pum egwyddor a gynhwysir yng Nghytundeb India a Tsieina ynghylch Tibet (1954): cyd-barch at gyfanrwydd tiriogaethol a sofraniaeth; anymosodedd; anymyrraeth; cydraddoldeb a chyd-fuddiannau; a chydfodolaeth heddychlon. Yn y blynyddoedd i ddod, datblygodd cydweithrediad rhyngwladol ymhellach yn annibynnol ar feysydd dylanwad Unol Daleithiau America a'r Undeb Sofietaidd, y ddau uwchbwer a fu ar naill ochr y Rhyfel Oer. Wrth i broses datrefedigaethu fynd ati, dygwyd mwy o wladwriaethau annibynnol yn rhan o'r hyn a elwir y Trydydd Byd, mewn cyferbyniad â'r Gorllewin a'r bloc Comiwnyddol, ac yng Nghynhadledd Beograd yn 1961 sefydlwyd y Mudiad Amhleidiol.