Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 542, 610 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Ddinbych |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 3,015.38 ha |
Cyfesurynnau | 52.959°N 3.406°W |
Cod SYG | W04000150 |
Cod OS | SJ056411 |
Cod post | LL21 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Ken Skates (Llafur) |
AS/au y DU | Simon Baynes (Ceidwadwyr) |
Pentref a chymuned yn Sir Ddinbych, Cymru, yw Cynwyd ( ynganiad ). Roedd gynt yn yr hen Sir Feirionnydd. Saif ar y ffordd B4401, tua dwy filltir i'r de-ddwyrain o dref Corwen, lle mae Afon Trystion yn ymuno ag Afon Dyfrdwy. Gerllaw mae coedwig gonifferaidd Coed Cynwyd. Gorwedd y pentref ym mhlwyf Llangar, yn Nyffryn Edeirnion, wrth droed Y Berwyn.
Ceir yma ddwy dafarn, y Prince of Wales a'r Blue Lion, a cheir hostel ieuenctid. Yma hefyd mae lleoliad man sefydlu cwmni trelars Ifor Williams. Saif Eglwys Llangar rhwng Cynwyd a Chorwen, un o eglwysi mwyaf nodedig Cymru, gyda'i murluniau canoloesol.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Ken Skates (Llafur) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Simon Baynes (Ceidwadwyr).[1][2]
Yn ôl yr hanesydd Antony Carr, Cynwyd oedd canolfan cwmwd Edeirnion, ac yma y deuai hyd at 30 o farwniaid Edeirnion at ei gilydd, mewn cae o'r enw Cae Llys a oedd yn rhan o Fryn yr Orsedd (Bryn yr Eryr heddiw). Mae'n bur debyg mai dyma darddiad yr enw Cynwyd, sef 'man cyfarfod'. Yn y 12g talwyd mwy o drethi gan Drigolion Cynwyd nag unrhyw dref-ddegwm arall yn y cwmwd.