Κυπριακή Δημοκρατία (Groeg) Kıbrıs Cumhuriyeti (Twrceg) | |
Arwyddair | Cyprus yn dy galon |
---|---|
Math | gwladwriaeth sofran, gwlad |
Prifddinas | Nicosia |
Poblogaeth | 1,141,166 |
Sefydlwyd | 1 Hydref 1960 (Diwrnod Annibyniaeth oddi wrth Lloegr (y DU)) |
Anthem | Emyn Rhyddid |
Pennaeth llywodraeth | Nicos Christodoulides |
Cylchfa amser | UTC+2 |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Groeg Modern, Tyrceg, Groeg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Y Dwyrain Canol, De-orllewin Asia, yr Undeb Ewropeaidd, Ardal Economeg Ewropeaidd, De Ewrop |
Arwynebedd | 9,242.45 km² |
Gerllaw | Y Môr Canoldir |
Yn ffinio gyda | Country data Akrotiri a Dhekelia, Gogledd Cyprus, Israel, y Deyrnas Unedig, Twrci |
Cyfesurynnau | 35°N 33°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Llywodraeth y Wladwriaeth |
Corff deddfwriaethol | Tŷ'r Cynrychiolwyr |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Arlywydd Cyprus |
Pennaeth y wladwriaeth | Nicos Christodoulides |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Arlywydd Cyprus |
Pennaeth y Llywodraeth | Nicos Christodoulides |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $28,408 million, $28,439 million |
Arian | Ewro |
Canran y diwaith | 16 ±1 canran |
Cyfartaledd plant | 1.446 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.896 |
Ynys yn y Môr Canoldir 113 km o Dwrci yw Gweriniaeth Cyprus neu Cyprus (/ˈkɪprɨ̞s/ hefyd Ciprus) (Groeg: Κύπρος Kýpros; Twrceg: Kıbrıs). Yn y cyfrifiad diwethaf roedd gan y wlad boblogaeth o 1,141,166 (2013), sydd tua hanner poblogaeth Cymru.
Mae'r ynys wedi'i rhannu yn ddwy wladwriaeth - gwladwriaeth y de, Gweriniaeth Cyprus sydd gan mwyaf yn Roeg ei hiaith ac yn Gristnogol, a gwladwriaeth y gogledd sydd yn Dwrceg ei hiaith ac yn Foslemaidd. Mae gwladwriaeth y de yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd. Ni chydnabyddir bodolaeth gwladwriaeth y gogledd, sef 36% o'r ynys o ran arwynebedd, gan lawer o wledydd y byd, ond fe'i cynhelir gan bresenoldeb milwrol Twrci.[1] Mae'r Deyrnas Unedig hefyd yn berchen ar ddau safle milwrol ar yr ynys, Akrotiri a Dhekelia.