Enghraifft o'r canlynol | disgyblaeth academaidd, pwnc gradd, damcaniaeth mathemategol |
---|---|
Math | Mathemateg bur |
Rhan o | mathemateg |
Yn cynnwys | calcwlws, dadansoddiad swyddogaethol, Dadansoddi Cymhlyg, Dadansoddi real, theory of differential equations, hafaliad annatod, calcwlws o amrywiadau, harmoneg dadansoddiadol, damcaniaeth systemau dynamegol, theori ergodig, global analysis, nonstandard analysis, Profion Cydgyfeiriant |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Dadansoddi mathemategol yw'r gangen o fathemateg sy'n dibynnu ar y cysyniadau o derfannau a damcaniaethau perthnasol, megis deilliant, yr integru, differu, mesur, y gyfres anfeidraidd, a ffwythiannau dadansoddol.
Yn aml, fe astudir y pynciau hyn yng nghyd-destyn rhifau real, rhifau cymhlyg, a'u ffwythiannau. Fodd bynnag, gellir hefyd eu diffinio yng nghyd-destyn unrhyw set o wrthrychau mathemategol sydd â diffiniad o agosatrwydd (gofod topologaidd) neu o bellter (gofod metrig). Man cychwyn yr astudiaeth o ddadansoddi yw datblygiad trwyadl o galcwlws.