Daeargryn ar raddfa 7.9 Mw oedd Daeargryn Sichuan, 2008 (Tsieineeg: 四川大地震; Pinyin: Sìchuān dà dìzhèn). Digwyddodd am 14:28:01.42 Amser Safonol Tsieina (06:28:01.42 UTC) ar 12 Mai 2008 yn nhalaith Sichuan, Gweriniaeth Pobl Tsieina. Mae wedi cael ei galw yn Ddaeargryn Wenchuan yn Tsieina (Tsieineeg: 汶川大地震; Pinyin: Wènchuān dà dìzhèn), am fod canolbwynt y daeargryn yn Swydd Wenchuan, Sichuan. Roedd y canolbwynt 90 km i'r gogledd-orllewin o Chengdu, prifddinas Sichuan, ar ddyfnder o 19 km dan wyneb y ddaear.[1] Teimlwyd y daeargryn mor bell i ffwrdd â Beijing a Shanghai, lle siglodd adeiladau gan y cryndod.[2] Teimlwyd y daeargryn mewn gwledydd cyfagos yn ogystal.
- ↑ Magnitude 7.9 - EASTERN SICHUAN, CHINA. USGS (12 Mai 2008).
- ↑ 'Hundreds buried' by China quake. BBC (2008-05-12).
- ↑ http://news.sina.com.cn/c/2008-05-15/185315547642.shtml
- ↑ Earthquake Killed More than 6,000 in Deyang.
- ↑ 5.0 5.1 5.2 5.3 5.4 5.5 5.6 Gwall cyfeirio: Tag
<ref>
annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw data
- ↑ Earthquake Killed 365 in Gansu, Sina.com
- ↑ http://news.sina.com.cn/c/2008-05-15/194015547712.shtml