Hil o fwtantiaid allfydol o'r rhaglen deledu Doctor Who yw Daleks /ˈdɑːlɛks/ (gwrando). Cawsant eu creu gan yr awdur ffuglen wyddonol o Gymru Terry Nation, eu dylunio gan Raymond Cusick, a gwnaethant eu hymddangosiad cyntaf ar y rhaglen yn 1963.[1]
Wedi'i ysbrydoli gan Natsïaeth, portreadodd Nation y Daleks fel creaduriaid treisgar, di-drugaredd a di-dostur, a oedd yn mynnu bod pawb yn cydymffurfio a'u hewyllys, yn benderfynol o goncro'r bydysawd, ac am weld hiliau roeddynt yn eu hystyried yn israddol wedi'u dileu yn gyfan gwbl.[2][3][4]
Yn naratif y rhaglen, cafodd y Daleks eu creu gan y gwyddonydd Davros ym mlynyddoedd olaf rhyfel a barodd fil o flynyddoedd rhwng ei bobl, y Kaleds, a'u gelynion, y Thals. Gan fod rhai o'r Kaleds eisoes wedi'u newid a'u niweidio gan ryfel niwclear, addasodd Davros enynnau'r Kaleds a'u gosod mewn cregyn robotig tebyg i danciau, a gwaredu eu holl emosiynau heblaw am gasineb. Daeth y Daleks i weld eu hunain fel hil oruchaf y bydysawd, ac yn benderfynol o ddileu pob un nad yw'n Dalek ohono. Hwy yw gelynion pennaf y Doctor. Yn ddiweddarach, llwyddodd y Daleks i gael gafael ar dechnoleg oedd yn eu galluogi i deithio trwy amser a mynd i ryfel ffyrnig yn erbyn y 'Time Lords' a oedd yn effeithio ar y rhan fwyaf o'r bydysawd ymhob oes.
Y Daleks yw dihirod mwyaf poblogaidd y rhaglen ac mae eu dychweliadau i'r gyfres dros y blynyddoedd wedi ennyn sylw'r cyfryngau.
|work=
(help)