Daneg (dansk) | |
---|---|
Siaredir yn: | Denmarc, Ynysoedd Faroe, yr Ynys Las, yr Almaen (Schleswig-Holstein) |
Parth: | Ewrop |
Cyfanswm o siaradwyr: | 5.5 miliwn |
Safle yn ôl nifer siaradwyr: | 103 |
Achrestr ieithyddol: | Indo-Ewropeaidd Germaneg |
Statws swyddogol | |
Iaith swyddogol yn: | Denmarc, yr Undeb Ewropeaidd, yr Almaen (iaith leiafrifol) |
Rheolir gan: | Dansk Sprognævn ("Pwyllgor Daneg") |
Codau iaith | |
ISO 639-1 | da |
ISO 639-2 | dan |
ISO 639-3 | dan |
Gweler hefyd: Iaith – Rhestr ieithoedd |
Iaith sydd yn perthyn i'r ieithoedd Germanaidd gogleddol yw Daneg (Daneg: dansk: ynganiad Daneg ). Fe'i siaredir gan rhyw 5.5 miliwn o bobl yn bennaf yn Nenmarc, ond hefyd gan ryw 50,000 o siaradwyr yn rhannau gogleddol Schleswig-Holstein yn yr Almaen. Mae hi'n iaith swyddogol a phwnc gorfodol mewn ysgolion yn yr Ynys Las ac Ynysoedd Faroe. Roedd Gwlad yr Iâ o dan goron Denmarc hyd 1944, ac fe'i siaredir yn helaeth yno fel ail iaith.