David Lloyd George | |
---|---|
Ganwyd | David Lloyd George 17 Ionawr 1863 Manceinion |
Bu farw | 26 Mawrth 1945 Llanystumdwy |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gwleidydd, diplomydd, cyfreithiwr, gwas sifil, llenor |
Cyflogwr | |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol |
Tad | William George |
Mam | Elizabeth Lloyd |
Priod | Margaret Lloyd George, Frances Stevenson |
Plant | Gwilym Lloyd George, Megan Lloyd George, Richard Lloyd George, 2il Iarll Lloyd-George o Ddwyfor, Mair Eluned Lloyd George, Olwen Carey Evans, Jennifer Mary Stevenson |
Llinach | Teulu Lloyd George |
Gwobr/au | Urdd Teilyngdod, Croes Rhyddid |
llofnod | |
Adnoddau Dysgu | |
Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y pwnc yma | |
---|---|
Llyfrgell Genedlaethol Cymru | |
David Lloyd George | |
HWB | |
David Lloyd George | |
Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg |
Roedd David Lloyd George, Iarll 1af Lloyd George o Ddwyfor (17 Ionawr 1863 – 26 Mawrth 1945), a adnabyddid fel y 'Dewin Cymreig', yn wleidydd Cymreig ac yn Brif Weinidog ar y Deyrnas Unedig rhwng Rhagfyr 1916 a Hydref 1922. Hyd yma, ef yw'r unig Gymro i ddal y swydd; y Gymraeg oedd ei famiaith.[1] Caiff ei gydnabod fel pensaer y wladwriaeth les[2]. Ef oedd prif weinidog Rhyddfrydol diwethaf y Deyrnas Unedig. Ym mlwyddyn olaf ei oes cafodd ei ddyrchafu'n iarll gan y brenin Siôr VI.
Yn Chorlton-on-Medlock, Manceinion, Lloegr, y cafodd ei eni. Treuliodd ei blentyndod ym mhentref Llanystumdwy, Eifionydd, o 1864 hyd 1880, lle cafodd ei fagu ar aelwyd Gymraeg gan ei fam weddw a'i ewythr Richard Lloyd. Daeth yn gyfreithiwr gyda phractis yng Nghricieth erbyn 1885.
David Lloyd George yw’r gwladweinydd rhyngwladol mwyaf a gynhyrchodd Cymru erioed. Bu ei ddylanwad yn drwm ar wleidyddiaeth, nid yn unig yng Nghymru a Phrydain, ond hefyd yn Ewrop, yn enwedig yn ei rôl fel un o’r ‘Tri Mawr’ a fu’n gyfrifol am lunio Cytundeb Versailles wedi’r Rhyfel Byd Cyntaf.
Bu'n aelod seneddol Rhyddfrydol am hanner can mlynedd, gan wasanaethu mewn llywodraethau fel Llywydd y Bwrdd Masnach (1905-08), Canghellor y Trysorlys (1908-15), Gweinidog Arfau (1915-16) a Gweinidog Rhyfel (1916). Yn Rhagfyr 1916,, daeth yn Brif Weinidog ar ganol y Rhyfel Byd Cyntaf yn dilyn ymddiswyddiad Herbert Asquith.[3][4]
Roedd yn un o Brif Weinidogion mwyaf amlwg Prydain yn ystod yr ugeinfed ganrif, ac fe arweiniodd y wlad drwy gyfnod argyfyngus yn ei hanes yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.[5] Roedd yn adnabyddus am ei sgiliau fel arweinydd ac fel siaradwr effeithiol a huawdl. Medrai ennill cefnogaeth a brwdfrydedd gwahanol gynulleidfaoedd ar draws y deyrnas ar gyfer gwahanol ymgyrchoedd ac achosion. Er ei fod yn erbyn mynd i ryfel ar y dechrau yn 1914, erbyn 1918 roedd yn cael ei ddisgrifio ym Mhrydain fel "Y Dewin Cymreig" a'r ‘y dyn a wnaeth ennill y rhyfel’.[6] Mae’n cael ei gofio hyd heddiw hefyd am ei ddefnydd o filwyr Prydeinig yn Iwerddon ac am fod yn brif negodydd Cytundeb Eingl-Wyddelig a sefydlodd Wladwriaeth Rydd Iwerddon, ond drwy wneud hynny rhannwyd yr ynys yn ddwy.