Damcaniaeth a dysgeidiaeth foesegol yw defnyddiolaeth,[1] llesyddiaeth,[1][2] buddioleg[3] neu iwtilitariaeth[1][4] sy'n haeru taw hapusrwydd pennaf y mwyafrif a ddylai fod yn egwyddor sylfaenol ymddygiad. Mae'n uniaethu daioni â defnyddioldeb ac yn dal taw'r unig weithredoedd cywir yw'r rhai sy'n dwyn y bodlonrwydd neu'r llawenydd mwyaf i'r nifer fwyaf o bobl.
Agwedd ddylanwadol at foeseg normadol yw defnyddiolaeth sy'n ffurf ar ganlyniadaeth; hynny yw, canlyniadau'r weithred sy'n pennu ei foesoldeb.[5] Mae'n wahanol i myfïaeth gan ei fod yn ystyried buddiannau eraill yn ogystal â buddiannau'r hunan, ac yn groes i ddyletswyddeg sy'n barnu moesoldeb heb ystyried canlyniadau. Yn ôl y defnyddiolwr, mae'n bosib i wneud da ar gymhelliad drwg, er nad yw hyn yn rheswm dros geisio gwneud drwg.[6]
Dirnedir safbwyntiau rhag-iwtilitaraidd ers athroniaeth yr Henfyd, megis moeseg Epiciwraidd, ond yn y 19eg ganrif daeth mynegiant llawn yr athrawiaeth a'i diffiniad am y tro cyntaf. Jeremy Bentham a John Stuart Mill a osododd sail i ddefnyddiolaeth glasurol gyda'u pwyslais ar eithafu'r hyn sy'n dda ar gyfer y nifer fwyaf o bobl.[5]