Y Celtiaid |
---|
Llwythau eraill |
Rhanbarthau hynafol |
Mytholeg Oidelig |
Ieithoedd Celtiaid |
Prif fudiadau gwleidyddol |
Enw modern ar grefydd y Celtiaid ym Mhrydain a Gâl yw derwyddiaeth.[1] Daw'r enw o'r derwyddon, oedd yn offeiriaid yr hen Geltiaid.
Nid oes gennym ffynonellau am gredoau'r hen Geltiaid o'r bobl eu hunain. Arferai'r derwyddon trosglwyddo eu hathrawiaeth a'u dysgeidiaeth ar lafar, ac nid yn ysgrifenedig. Yn hytrach, mae'r hyn a wyddom yn seiliedig ar ysgrifau gan deithwyr ac haneswyr Rhufeinig, yn bennaf Plinius yr Hynaf ac Iŵl Cesar.