Diffyg maeth

Diffyg maeth
Rhuban oren: y symbol rhyngwladol
o ddiffyg maeth.
Dosbarthiad ac adnoddau allanol
Arbenigeddendocrinoleg, intensive care medicine, maethiad
ICD-10E40.{{{3}}}-E46.{{{3}}}
ICD-9-CM263.9
MedlinePlus000404
eMedicineped/1360
Patient UKDiffyg maeth
MeSHD044342

Pan na fwyteir digon o faetholion bydd y corff yn dioddef o ddiffyg maeth. Mae'r gair malnutrition yn y Saesneg hefyd yn cynnwys adegau pan y bwyteir gormod o faetholion; yn y Gymraeg, fodd bynnag, defnyddir y gair gor-faeth am y stad hwn. Mae'r erthygl hon yn cynnwys diffyg maeth a gor-faeth.[1]

Gall unrhyw un o'r elfennau hanfodol fod ar goll: caloriau, protein, carbohydrad, fitaminau neu fwynau.[1][2]

Pan fo merch feichiog yn dioddef o ddiffyg maeth, gall effeithio'r babi yn y groth, a hynny'n barhaol: yn ffisegol neu'n broblemau meddyliol. Mae hyn hefyd yr un mor wir gyda babanod dan ddwy oed, lle'r effeir eu datblygiad yn barhaol.[1] Gelwir diffyg maeth eithafol yn newyn, lle mae'r symtomau'n cynnwys: corff hir, main gyda diffyg ynni, a choesau a bol wedi chwyddo.[1][2] Un o'r sgil effeithiau, neu ganlyniad newyn a diffyg maeth yw anallu'r corff i ymladd yn erbyn haint a bydd y claf yn aml yn teimlo'r oerfel yn waeth nag arfer, a hyd yn oed hypothermia.

Mae symtomau diffyg micro-faetholion yn dibynnu ar ba ficro-faetholion sy'n ddiffygiol. yn y corff.[2]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Facts for life (PDF) (arg. 4th). New York: United Nations Children's Fund. 2010. tt. 61 and 75. ISBN 978-92-806-4466-1. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2018-12-12. Cyrchwyd 2016-08-12.
  2. 2.0 2.1 2.2 Young, E.M. (2012). Food and development. Abingdon, Oxon: Routledge. tt. 36–38. ISBN 9781135999414.

Developed by StudentB