Math | diwedd, risg biolegol |
---|---|
Y gwrthwyneb | rhywogaethu |
Rhan o | diraddio'r amgylchedd, colli bioamrywiaeth, Difodiant mawr bywyd |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Difodiant yw diwedd bywyd organeb byw, grwp o organebau byw (tacson) neu rywogaeth, fel arfer. Gellir diffinio difodiant o ran amser fel y foment honno pan fo aelod ola'r rhywogaeth yn marw. Defnyddir y term gan mwyaf o fewn daeareg, bywydeg ac ecoleg. Ar adegau, ceir hyd i rywogaeth a gredwyd oedd wedi difodi; mae'n ailymddangos, yn dal yn fyw a gelwir hon yn rhywogaeth Lasarus, oherwydd i Lasarus, yn ôl y chwedl atgyfodi.
Cred gwyddonwyr fod dros 99% o'r holl rywogaethau sydd erioed wedi byw ar wyneb Daear wedi difodi; mae hyn yn gyfystyr â phum biliwn o rywogaethau.[1][2][3] Mewn cymhariaeth, amcangyfrifir fod rhwng 10 miliwn a 14 miliwn o rywogaethau'n fyw heddiw, gyda dim ond 1.2 miliwn ohonynt wedi eu cofnodi.[4]
Gellir dweud i raddau fod difodiant yn broses cwbwl naturiol o ran esblygiad. Y ddau reswm mwyaf dros ddifodiant yw: yn gyntaf, amgylchiadau sy'n newid yn sydyn e.e. daeargrynfeydd ysgytwol neu newid tymheredd ac yn ail cystadleuaeth gan rywogaeth arall.[5] Ar gyfartaledd mae rhywogaeth yn difodi wedi 10 miliwn o fodolaeth, er bod yr hyn a elwir yn 'ffosiliau byw' yn parhau am gannoedd o filiynau rhagor o fodolaeth, heb fawr o newid esblygol, morffolegol.[3]