Dinas

Dinas Efrog Newydd

Fel arfer, mae dinas yn anheddiad dynol mawr e.e. Paris, Caerdydd, ond gall hefyd fod o faint tref bychan e.e. Llanelwy. Yn gyffredinol mae gan ddinasoedd systemau helaeth ar gyfer tai, cludiant, glanweithdra, cyfleustodau, defnydd tir, a chyfathrebu. Mae eu dwysedd, ar y cyfan, yn hwyluso rhyngweithio rhwng pobl, sefydliadau'r llywodraeth a busnesau, sydd weithiau o fudd i wahanol bartïon yn y broses, ond gall y dwysedd hwn hefyd achosi problemau iechyd a chymdeithasol. Fel arfer, caiff dinas ei diffinio gan gorff megis llywodraeth neu eglwys, drwy siarter.

Yn hanesyddol, mae trigolion y ddinas wedi bod yn gyfran fach o'r ddynoliaeth, ond ar ôl dwy ganrif o drefoli dwys, mae tua hanner poblogaeth y byd bellach yn byw mewn dinasoedd, sy'n golygu canlyniadau difrifol ar gyfer cynaliadwyedd byd-eang. Mae dinasoedd heddiw fel arfer yn ffurfio craidd ardaloedd metropolitan mwy ac ardaloedd trefol — gan greu nifer o gymudwyr sy'n teithio tuag at ganol dinasoedd ar gyfer cyflogaeth, adloniant a golygu. Fodd bynnag, mewn byd lle mae globaleiddio'n dwysáu, mae pob dinas i raddau gwahanol hefyd yn gysylltiedig, yn fyd-eang, y tu hwnt i'r rhanbarthau hyn.[1]

Cofnodir y gair am y tro cyntaf yn Hanes Gruffudd ap Cynan, yn y 12g.[2]

  1. James, Paul; with Magee, Liam; Scerri, Andy; Steger, Manfred B. (2015). Urban Sustainability in Theory and Practice: Circles of Sustainability. London: Routledge..
  2. "dinas", Geiriadur Prifysgol Cymru; adalwyd 17 Mai 2019.

Developed by StudentB