Diwylliant yr Ariannin

Dylanwadwyd ar ddiwylliant yr Ariannin gan yr amryw gymunedau Ewropeaidd sydd wedi ymfudo i'r wlad, yn enwedig y Sbaenwyr a'r Eidalwyr. Cafwyd llai o ddylanwad ar ddiwylliant y prif ffrwd gan y bobloedd frodorol ac Affricanwyr nag yng ngwledydd eraill America Ladin, er bod rhywfaint o etifeddiaeth y grwpiau hynny i'w weld ym mydoedd cerdd a chelf.

Enillodd diwylliant Ffrengig le arbennig ym meddylfryd yr Ariannin yn y 19g, wrth i lenorion ac arlunwyr Archentaidd ceisio troi cefn y genedl ar yr etifeddiaeth drefedigaethol ac efelychu gwlad Ewropeaidd arall, Ffrainc, yn hytrach na'r hen ymerodraeth, Sbaen. Erbyn y belle époque, cafodd y Ffrangeg ei hystyried yn iaith ddiwylliedig a siaredir gan oreuon cymdeithas a chan nifer o drigolion y brifddinas Buenos Aires, ac roedd arddulliau Ffrengig i'w gweld ym mhob un o'r celfyddydau yn yr Ariannin.[1] Yn niwedd y 19g, roedd siopau llyfrau Buenos Aires yn llawn nofelau, barddoniaeth, ac athroniaeth Ffrangeg, y clasuron a'r cyfoedion fel ei gilydd, roedd papurau newydd a chyfnodolion o Baris ar werth ar draws y ddinas, ac roedd myfyrwyr Archentaidd yn dysgu'r iaith.[2]

  1. Sas, Louis Furman. “The Spirit of France in Argentina”, The French Review, cyfrol 15, rhif 6, 1942, tt. 468–477.
  2. Daughton, J. P. “When Argentina Was ‘French’: Rethinking Cultural Politics and European Imperialism in Belle‐Époque Buenos Aires”, The Journal of Modern History, cyfrol 80, rhif 4, 2008, tt. 831–864.

Developed by StudentB