Math | anheddiad dynol, y ddinas fwyaf |
---|---|
Poblogaeth | 1,186,023 |
Sefydlwyd | |
Cylchfa amser | UTC+03:00 |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Ad-Dawhah (municipality) |
Gwlad | Qatar |
Arwynebedd | 132,000,000 m² |
Uwch y môr | 0 metr |
Gerllaw | Gwlff Persia |
Cyfesurynnau | 25.286206°N 51.529436°E |
QA-DA | |
Prifddinas Catar yw Doha (Arabeg: الدوحة). Mae ganddi boblogaeth o 400,051 yn ôl cyfrifiad 2005 ac fe'i lleolir ym mwrdeisdref Ad Dawhah ar lan Gwlff Persia. Doha yw dinas fwyaf Catar, gyda thros 80% o boblogaeth y wlad yn byw yno neu yn ei maesdrefi. Mae'n ganolfan economaidd i'r wlad hefyd. Mae Doha hefyd yn gartref i Ddinas Addysg (Education City), ardal arbennig ar gyfer ymchwil ac addysg. Roedd dinas Doha hefyd wedi cynnal Gêmau Asiaidd 2006, sef y Gêmau Asiaidd fwyaf i gael ei chynnal erioed.
Mae Doha wedi datblygu i fod yn ddinas fodern gyda safon byw uchel. Lleolir pencadlys y rhwydwaith teledu rhyngwladol Al Jazeera yn y ddinas.
Mae'r ddinas yn gartref i Brifysgol Catar a champws ysgol fusnes HEC Paris.