Donald Trump | |
---|---|
Ffugenw | John Barron, John Miller, The Donald, David Dennison |
Ganwyd | Donald John Trump 14 Mehefin 1946 Jamaica Hospital Medical Center |
Man preswyl | Trump Tower, Mar-a-Lago, y Tŷ Gwyn, Manhattan, Efrog Newydd, Queens, Palm Beach, Jamaica Estates |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Addysg | Baglor mewn Gwyddoniaeth |
Alma mater | |
Galwedigaeth | entrepreneur busnes, buddsoddwr, perchennog bwyty, gwleidydd, game show host, entrepreneur eiddo tiriog, cynhyrchydd teledu, cynhyrchydd ffilm, llenor, actor, prif weithredwr, damcanydd cydgynllwyniol, masnachwr, person busnes, entrepreneur |
Swydd | Arlywydd yr Unol Daleithiau, Arlywydd-etholedig yr Unol Daleithiau, cadeirydd, llywydd corfforaeth, cyfarwyddwr, Arlywydd-etholedig yr Unol Daleithiau, Arlywydd yr Unol Daleithiau |
Adnabyddus am | Trump: The Art of the Deal, Crippled America, The Apprentice |
Arddull | gwrywaidd |
Taldra | 1.9 metr, 74 modfedd, 75 modfedd, 180.33 centimetr, 190 centimetr |
Pwysau | 215 pwys |
Plaid Wleidyddol | plaid Weriniaethol, Reform Party of the United States of America, plaid Ddemocrataidd, plaid Weriniaethol, Annibynnwr, plaid Weriniaethol |
Tad | Fred Trump |
Mam | Mary Anne MacLeod Trump |
Priod | Ivana Trump, Marla Maples, Melania Trump |
Plant | Donald Trump Jr., Ivanka Trump, Eric Trump, Tiffany Trump, Barron Trump |
Perthnasau | John G. Trump, Elizabeth Christ, Jared Kushner, Lara Trump, Vanessa Trump, Mary L. Trump, John Whitney Walter |
Llinach | family of Donald Trump |
Gwobr/au | seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Jewish National Fund Tree of Life Award, Ellis Island Medal of Honor, Person y Flwyddyn Time, Doublespeak Award, Gaming Hall of Fame, Neuadd Enwogion WWE, King Abdulaziz Medal, Presidential Order of Excellence, Gwobr Golden Raspberry i'r Actor Wrth Gefn Gwaethaf, Doublespeak Award, Gwobr Ig Nobel, Gwobr Time 100, Order of Mohammed, Order of Freedom, Urdd Abdulaziz al Saud, Person y Flwyddyn y Financial Times, Gwobr Time 100, Gwobr Time 100, Gwobr Time 100, Gwobr Time 100, Gwobr Time 100 |
Gwefan | https://donaldjtrump.com |
Chwaraeon | |
llofnod | |
Delwedd:Donald Trump Signature.svg, Signatures of President Donald Trump, Rodney Scott and Brian Hastings on a piece of paper placed on the Texas-Mexico border wall on January 12, 2021 - (50849560102) (cropped).jpg |
Gwleidydd a dyn busnes o'r Unol Daleithiau yw Donald Trump (ganwyd 14 Mehefin 1946), sy'n arlywydd-ethol yr Unol Daleithiau. Roedd e'n 45ed Arlywydd Unol Daleithiau America rhwng 2017 a 2021. Methodd gael ei ail-ethol yn 2020 ac roedd Joe Biden yn enillydd clir. Er hynny gwrthododd Trump ganlyniad yr etholiad gan geisio herio y pleidleisiau mewn sawl talaith. Ni ildiodd hyd y diwedd a gadawodd y Tŷ Gwyn heb gyfarfod ei olynydd, gan wrthod mynd i seremoni urddo Biden, er fod Is-Arlywydd Mike Pence yno.[1]
Enillodd yr etholiad ar 8 Tachwedd 2016 gan ddilyn yr arlywydd Obama, gan gynrychioli'r Gweriniaethwyr. Yn wahanol i bob arlywydd o'i flaen roedd yn siarad heb ymgynghori, yn ddi-flewyn ar dafod, yn aml mewn trydar, gan ddefnyddio iaith dyn y stryd e.e. ar 20 Medi 2017 galwodd arweinydd Gogledd Corea yn rocket man. Fe wnaeth Trump nifer fawr o ddatganiadau anghywir, a hynny'n gyhoeddus.[2][3][4] Yn ystod chwe mis cyntaf ei arlywyddiaeth, cafwyd llawer o gyhuddiadau ei fod ef a'i deulu'n defnyddio'r swydd i wneud arian, ei fod yn anwadal a'i fod wedi cydweithio gyda Rwsia i ddylanwadu ar yr etholiad ym yr arlywyddiaeth.[5]
Mae Trump hefyd yn ddyn busnes, yn awdur ac yn bersonoliaeth amlwg ar y teledu. Ef yw Cadeirydd a Phrif Weithredwr (CEO) y Trump Organization, sefydliad sy'n datblygu eiddo yn yr Unol Daleithiau. Ef hefyd yw sefydlydd y Trump Entertainment Resorts, sy'n gweithredu nifer o gasinos a gwestai ar draws y byd. Mae bywyd afradlon ac agwedd ddi-flewyn-ar-dafod Trump wedi'i wneud yn enwog yn llygad y cyhoedd am flynyddoedd, ac yn y 2010au bu'n gyflwynydd a chynhyrchydd gweithredol ei sioe realiti The Apprentice ar NBC. Yn ôl Forbes, roedd ganddo US$3.7 biliwn yn 2016 ac ef oedd 324fed person cyfoethocaf y byd. Cyn gynted ag y dyrchafwyd ef yn arlywydd, dirprwyodd rheolaeth o'i gwmnïau i'w feibion Donald Jr. ac Eric.
Trump oedd dewis y Blaid Weriniaethol ar gyfer arlywyddiaeth yr Unol Daleithiau yn 2016 gan gyd-redeg gyda llywodraethwr talaith Indiana, Mike Pence a benodwyd, wedi'r etholiad, yn ddirprwy iddo.[6]
Yn dilyn ei ethol yn arlywydd cafwyd protestiadau ledled y byd. Ychydig o bobl ddaeth i'r seremoni urddo ar 20 Ionawr 2017: llawer llai nad yn seremoni Obama. Yn ystod ei wythnos gyntaf yn ei swydd arwyddodd chwe gorchymyn: y cyntaf oedd gorchymyn i ddileu'r gofal am gymuned dlawd UDA o ran iechyd a gofal, a adnabyddid fel 'Obamacare'. Dileodd y Partneriaeth Masnach a Buddsoddiad TrawsIwerydd a lansiodd ei gynllun i godi wal rhwng yr UD a Mecsico.