Math | dinas â phorthladd, dinas fawr |
---|---|
Poblogaeth | 2,768,436 |
Cylchfa amser | UTC+01:00 |
Gefeilldref/i | Philadelphia, Akhisar, Rhufain, Trieste, Windhoek, Newark, Dakar, Ouagadougou, Agadir, Durban, Sfax, Taiyuan |
Daearyddiaeth | |
Sir | Wouri, Littoral |
Gwlad | Camerŵn |
Arwynebedd | 210 km² |
Uwch y môr | 13 ±1 metr |
Gerllaw | Afon Wouri |
Cyfesurynnau | 4.05°N 9.7°E |
Douala yw'r ddinas fwyaf yn Camerŵn a phrifddinas Talaith Arfordirol Camerŵn. Mae'n gartref i borthladd mwyaf y wlad a'i phrif faes awyr rhyngwladol, Maes Awyr Douala, ac yn brifddinas masnach Camerŵn yn ogystal. Mewn canlyniad, mae'n delio â'r rhan fwyaf o allforion y wlad, e.e. olew, cocoa a choffi, yn ogystal â rhywfaint o fasnachu o Tsiad. Yno hefyd y cynhelir Marchnad Eko, y bwysicaf yn y wlad.
Saif y ddinas ar lannau Afon Wouri, gyda'r ddwy lan yn cael eu cysylltu gan Bont Bonaberi. Yn ôl cyfrifiad yn 1991 roedd tua 1.6 miliwn yn byw yn Douala ond erbyn hyn amcangyfrifir dros 2 filiwn o drigolion yn y ddinas. Mae'r hinsawdd yn boeth a chlos.