Math | dinas, endid tiriogaethol gweinyddol, dinas fawr, dinas global, metropolis, y ddinas fwyaf |
---|---|
Poblogaeth | 3,331,420 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Mohammed bin Rashid Al Maktoum |
Cylchfa amser | UTC+04:00 |
Gefeilldref/i | Basra, Bogotá, Brisbane, Busan, Damascus, Gold Coast, Kuala Lumpur, Jeddah, Khartoum, Karachi, Rio de Janeiro, Shanghai, Dundee, Baghdad, Barcelona, Beirut, Caracas, Cheb, Detroit, Frankfurt am Main, Gandhinagar, Genefa, Granada, Guangzhou, Hong Cong, Hyderabad district, Istanbul, Kish Island, Dinas Coweit, Los Angeles, Monterrey, Dinas Efrog Newydd, Osaka, Paris, Phoenix, Tehran, Tripoli, Vancouver, Osaka, P'yŏngyang |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Arabeg |
Daearyddiaeth | |
Sir | Emirate of Dubai |
Gwlad | Emiradau Arabaidd Unedig |
Arwynebedd | 35 km² |
Uwch y môr | 0 metr |
Yn ffinio gyda | Emirate of Sharjah |
Cyfesurynnau | 25.2697°N 55.3094°E |
Pennaeth y Llywodraeth | Mohammed bin Rashid Al Maktoum |
Sefydlwydwyd gan | Al Maktoum |
Mae Dubai (Arabeg: إمارة دبي) yn un o'r saith o Emiradau, yn brifddinas Emiradau Dubai a hi yw'r dinas fwyaf poblog yn yr Emiradau Arabaidd Unedig (EAU), gyda phoblogaeth o tua 3,331,420 (Ionawr 2020). Lleolir y ddinas ar arfordir gogleddol y wlad ar y Penrhyn Arabaidd. Weithiau gelwir Bwrdeistref Dubai yn ddinas Dubai er mwyn medru gwahaniaethu rhyngddo a'r Emiradau.[1][2][3]
Dengys dogfennau ysgrifenedig fodolaeth y ddinas o leiaf 150 o flynyddoedd cyn i'r Emiradau Arabaidd Unedig gael eu ffurfio. Mae Dubai yn rhannu cyfundrefnau cyfreithiol, gwleidyddol, milwrol ac economaidd gyda'r Emiradau eraill o fewn fframwaith ffederal, er bod gan bob emiraeth reolaeth dros rhai swyddogaethau fel gweinyddu'r gyfraith a chynnal a chadw cyfleusterau lleol. Mae gan Dubai y boblogaeth fwyaf a hi yw ail emiraeth fwyaf o ran arwynebedd ar ôl Abu Dhabi. Dubai ac Abu Dhabi yw'r unig ddwy ermiraeth sydd a'r pŵer i veto ar faterion o bwysigrwydd cenedlaethol o dan ddeddfwriaeth y wlad. Mae brenhinlin Al Maktoum wedi rheoli Dubai ers 1833. Mae rheolwr presennol Dubai, Mohammed bin Rashid Al Maktoum hefyd yn Brif Weinidog ac Is-arlywydd yr Emiradau Arabaidd Unedig.
Daw prif incwm y ddinas o dwristiaeth, masnach, gwerthu cartrefi a gwasanaethau ariannol. Mae arian o betrol a nwy naturiol[4] yn cyfrif am lai na 6% (2006) o economi $37 biliwn (UDA) Dubai. Fodd bynnag, cyfrannodd gwerthu tai a'r diwydiant adeiladu 22.6% i'r economi yn 2005, cyn y twf adeiladu ar raddfa eang a welir ar hyn o bryd.[5][6][7][8]
Lleolir twr fwyaf y Byd sef y Burj Khalifa yno, ac fe'i agorwyd yn swyddogol yn 2010. Mae Dubai wedi denu sylw yn sgil ei chynlluniau adeiladu a'i digwyddiadau ym myd chwaraeon.