Enghraifft o'r canlynol | cysyniad crefyddol |
---|---|
Math | creawdwr, person, cymeriad crefyddol |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mewn unduwiaeth, Duw yw'r bod goruchaf, y crëwr, a phrif wrthrych ffydd.[1] Fel arfer, caiff Duw ei gydnabod fel hollalluog, hollwybodus, hollbresennol a omnibenevolent yn ogystal â bod yn dragwyddol ac yn angenrheidiol. Nid pawb sy'n cytuno bod duw yn bodoli, ac nid oes prawf gwyddonol o'i fodolaeth. Credir ynddo drwy ffydd yn unig.[1][2][3] Credir mai creawdwr y bydysawd yw Duw, neu o leiaf mai ei gynhaliwr yw ef. Mewn crefyddau eraill hen a diweddar, rhai enwadau Hindŵaidd er enghraifft, credir fod y Bod goruchel yn fenywaidd a chyfeirir ati fel Y Dduwies. Nid yw pawb yn credu mewn Duw neu dduwiau. Mae rhai yn amheuwr ond gyda meddwl agored ar y pwnc; gelwir pobl o'r farn hynny'n agnostig. Mae eraill yn gwrthod bodolaeth Duw yn gyfan gwbl; gelwir y rhain hynny'n anffyddwyr.
Mae rhai crefyddau'n disgrifio Duw heb gyfeirio at ryw, tra bod eraill, fel y Gymraeg, yn defnyddio terminoleg sy'n rhyw-benodol hy gyda rhagfarn ar sail rhyw; 'Ef' (gwrywaidd) yw Duw yn y Gymraeg, yn draddodiadol. Mae Duw wedi cael ei genhedlu fel naill ai persono neu'n ddiberson. Mewn theistiaeth, Duw yw crëwr a chynhaliwr y bydysawd, tra mewn deistiaeth, Duw yw crëwr, ond nid cynhaliwr, y bydysawd. Mewn pantheistiaeth, Duw yw'r bydysawd ei hun. Anffyddiaeth yw absenoldeb Dduw neu ddwyfoldeb, tra bod agnosticiaeth yn ystyried bodolaeth Duw yn anhysbys. Mae Duw hefyd wedi ddylunio fel ffynhonnell pob rhwymedigaeth foesol, a'r "gwrthrych mwyaf y gellir ei ddychmygu".[1] Mae llawer o athronwyr nodedig wedi datblygu dadleuon o blaid ac yn erbyn bodolaeth Duw.[4]
Mae pob crefydd undduwaidd yn cyfeirio at ei duw gan ddefnyddio gwahanol enwau, gyda rhai'n cyfeirio at syniadau diwylliannol am hunaniaeth a phriodoleddau'r duw. Yn Ateniaeth yr Aifft hynafol, o bosibl y grefydd undduwaidd gynharaf a gofnodwyd, gelwid y duwdod hwn yn Aten[5] a chyhoeddwyd mai hi oedd yr un Bod "Goruchaf" gwir "a chreawdwr y bydysawd.[6]
Defnyddir yr enwau Iahwe a Jehofa, lleisiau posib o YHWH (Iafe, Iahwe), mewn Cristnogaeth. Yn athrawiaeth Gristnogol y Drindod, mae un Duw yn cydfodoli mewn tri hypostasis (a elwir hefyd yn hanfod a pherson) o'r enw'r Tad, y Mab a'r Ysbryd Glân. Yn Islam, mae'r teitl Duw ("Allah" yn yr Arabeg) yn aml yn cael ei ddefnyddio fel enw, tra bod Mwslimiaid hefyd yn defnyddio llu o deitlau eraill am Dduw. Mewn Hindŵaeth, mae Brahman yn aml yn cael ei ystyried yn gysyniad monyddol o Dduw.[7] Yng nghrefyddau Tsieineaidd caiff Shangdi ei ystyried yn dad yr hil (neu'r 'hynafiad cyntaf') a'r bydysawd. Ymhlith yr enwau eraill ar Dduw mae Baha yn y Ffydd Bahá'í,[8] Waheguru mewn Siciaeth,[9] Ahura Mazda mewn Zoroastriaeth,[10] Hayyi Rabbi ym Mandeaeth[11][12] a Sang Hyang Widhi Wasa yn Hindŵaeth Bali.[13]
Yn y Gymraeg, a'r Saesneg, defnyddir llythyren fawr pan ddefnyddir y gair fel enw priod, yn ogystal ag ar gyfer enwau duwiau unigol eraill ee Baha, Lleu, Jehofa.[14] O ganlyniad, defnyddir llythyren fach ar gyfer llu o dduwiau, neu pan gaiff ei ddefnyddio i gyfeirio at y syniad generig o ddwyfoldeb.[15][16][17]
Allāh (Arabeg: الله) yw'r term Arabeg ac ni cheir enw lluosog; fe'i defnyddir gan Fwslimiaid a Christnogion ac Iddewon sy'n siarad Arabeg i ddynodi "Y Duw", tra bod ʾilāh (Arabeg: إِلَٰه; lluosog `āliha آلِهَة) yn derm a ddefnyddir ar gyfer dwyfoldeb (is-dduw) neu dduw yn gyffredinol.[18][19]
Weithiau, rhoddir enw priod i Dduw hefyd mewn Hindŵaeth undduwaidd (monotheistig), sy'n pwysleisio natur bersonol Duw, gyda chyfeiriadau cynnar at ei enw fel Crishna-Vasudeva yn Bhagavata neu yn ddiweddarach mewn Fisnw a Hari.[20]
Ahura Mazda yw'r enw ar Dduw a ddefnyddir mewn Zoroastriaeth. Mae "Mazda", neu'n hytrach y ffurf Afesteg Mazdā-, Mazdå (enwol), yn adlewyrchu'r Iraneg *Mazdāh (benywaidd). Yn gyffredinol cymerir mai enw iawn yr ysbryd ydyw, ac fel ei gytras Sansgrit medhā, mae'n golygu "deallusrwydd" neu "ddoethineb". Mae'r enwau Afesteg a Sansgrit yn adlewyrchu tarddiad Indo-Iraneg *mazdhā-, o Indo-Ewropeg *mn̩sdʰeh₁, gan olygu'n llythrennol: "trefnu (*dʰeh₁) meddwl rhywun (*mn̩-s)", ac felly "doeth". [21]
Y term Waheguru (Pwnjabeg vāhigurū) a ddefnyddir amlaf mewn Siciaeth i gyfeirio at Dduw. Mae'n golygu ‘athro bendigedig’ yn y Pwnjabeg. Ystyr Vāhi (benthycair o'r Perseg Canol) yw ‘rhyfeddol’ a guru (Sansgrit) yn derm sy'n dynodi ‘athro’. Mae rhai hefyd yn disgrifio Waheguru fel profiad o ecstasi sydd y tu hwnt i bob disgrifiad. Mae'r defnydd mwyaf cyffredin o'r gair Waheguru yn y cyfarchiad y mae Siciaid yn ei ddefnyddio gyda'i gilydd:
Waheguru Ji Ka Khalsa, Waheguru Ji Ki Fateh
Wonderful Lord's Khalsa, Victory is to the Wonderful Lord.
Arabeg yw'r gair Baha, sy'n golygu'r Duw "mwyaf" yn y Ffydd Bahá'í, ar gyfer "Holl-Gogoneddus".