Duwies

Bod dwyfol benywaidd yw duwies. Gallai fod yn un o'r duwiau yn y crefyddau amldduwiol neu'n fod dwyfol goruchel y cyfeirir ati'n aml fel 'Y Dduwies Fawr' neu 'Y Fam Dduwies'.

Ymhlith y duwiesau enwocaf yn yr Henfyd y mae Athena, nawdd-dduwies dinas Athen, Anahita yn nhraddodiad Persia, ac Isis, chwaer a gwraig y duw Osiris.

Ceir duwiesau niferus yn Hindŵaeth, e.e. Kali, Parvati a Deva. Ceir nifer o dduwiesau yn nhraddodiad Bwdhaeth Mahayana yn ogystal, yn arbennig ym Mwdhaeth Tibet, e.e. Tara.


Developed by StudentB