Un o ranbarthau newydd Ffrainc – a grëwyd gan ddeddf diwygio diriogaethol Rhanbarthau Ffrainc yn 2014 drwy uno Alsace, Champagne-Ardenne a Lorraine – yw Dwyrain Mawr. Daeth y rhanbarth newydd i fodolaeth ar 1 Ionawr 2016.
Mae'r rhanbarth yn cwmpasu ardal o 57,433 km² (22,175 milltir sgwâr), ac mae ganddo boblogaeth o 5,552,388.