Mae dydd Sadwrn yn ddiwrnod o'r wythnos. Mae gwahanol rannau o'r byd yn ei ystyried yn chweched neu'n seithfed diwrnod yr wythnos. Cafodd ei enwi ar ôl Sadwrn, un o dduwiau'r Rhufeiniaid. Mae Iddewaeth yn clustnodi'r Sadwrn yn ddydd sanctaidd oherwydd dyna'r diwrnod (yn ôl eu crefydd) yr ymlaciodd Duw ar ôl creu'r bydysawd.