Yn draddodiadol seilir economi Cymru ar ddiwydiannau mwyngloddio, amaeth a gweithgynhyrchu ond yn ddiweddar mae galwedigaethau mwy modern ac amrywiol, yn enwedig o fewn y sector gwasanaethau, wedi datblygu fel rhan ganolog yr economi Gymreig.
Ar y cyfan, mae Cynnyrch Mewnwladol Crynswth (CMC) yng Nghymru wedi cynyddu yng Nghymru ers 1999, er ei fod yn parhau i fod yn is na chyfartaledd y DU. Mae gwariant llywodraeth y DU a lllywodraeth Cymru yng Nghymru hefyd wedi cynyddu dros yr un cyfnod. Mae Cymru wedi cael arian o’r Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd ac mae llywodraeth y DU wedi cyhoeddi bod y cyllid hwn yn cael ei ddisodli gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, er bod Llywodraeth Cymru wedi awgrymu bod Cymru’n cael llai o arian. Mae gan Gymru gydbwysedd cyllidol negyddol, er bod gan bob gwlad a rhanbarth yn y DU hefyd ddiffyg cyllidol yn 2020/21. Mae'r Gwerth Ychwanegol Crynswth yng Nghymru wedi cynyddu ers 1998, ond mae'r pen yn parhau i fod yn is na chyfartaledd y DU.