Delwedd:Edgbaston Old Church (St Bartholomew).jpg, Edgbaston001.JPG | |
Math | maestref, plwyf sifil |
---|---|
Ardal weinyddol | Dinas Birmingham |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Birmingham |
Sir | Gorllewin Canolbarth Lloegr (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 52.4581°N 1.919°W |
Cod OS | SP055845 |
Cod post | B15 |
Ardal faestrefol yn Birmingham, yn sir Gorllewin Canolbarth Lloegr, yn rhanbarth Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Edgbaston.[1] Fe'i lleolir mewn ardal di-blwyf ym mwrdeistref fetropolitan Dinas Birmingham, i'r de-orllewin o ganol y ddinas. Mae'n ffinio ar y maestrefi Moseley i'r de-ddwyrain, Selly Oak i'r de-orllewin, Harborne i'r gorllewin, a Smethwick a Winson Green i'r gogledd-orllewin.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y ward etholiad Edgbaston boblogaeth o 18,260.[2]
Yn y 19g roedd yr ardal o dan reolaeth teulu Gough-Calthorpe a theulu Gillott a wrthododd ganiatáu i ffatrïoedd neu warysau gael eu hadeiladu ynddi, gan ei gwneud yn ddeniadol i drigolion cyfoethocaf y ddinas. Heddiw mae'n parhau i fod yn lle cefnog sy'n nodedig am ei mannau agored gwyrdd, coed a gerddi. Mae'n gartref i gampws Prifysgol Birmingham, wyth o'r naw ysgolion annibynnol y ddinas, a Gerddi Botanegol Birmingham. Ceir hefyd nifer o leoliadau chwaraeon, gan gynnwys Maes Criced Edgbaston (lleoliad gemau rhyngwladol a chartref i Clwb Criced Swydd Warwick), Clwb Golff Birmingham, Edgbaston Archery and Lawn Tennis Society, ac Edgbaston Priory Club. Mae yno nifer o eglwysi sylweddol, gan gynnwys Oratori Birmingham, eglwys Gatholig a adeiladwyd ym 1907 fel cofeb i John Henry Newman.
Chwaraewyd y gêm gyntaf o denis lawnt yn Edgbaston, yn gardd tŷ o'r enw "Fairlawn".