Math | eglwys |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Llangar |
Sir | Cynwyd |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 147.5 metr |
Cyfesurynnau | 52.9712°N 3.39592°W |
Rheolir gan | Cadw |
Perchnogaeth | Cadw |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Cysegrwyd i | gŵyl (yr) Hollsaint |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | ME093 |
Saif Eglwys Llangar yn Llangar, rhwng Corwen a Chynwyd, ar lwybyr cyhoeddus sy'n arwain i lawr at yr Afon Ddyfrdwy.
Defnyddiwyd yr eglwys o tua 1291 hyd i eglwys newydd cael ei chodi yn ei lle yng Nghynwyd yn 1874.[1] Ei henw gwreiddol oedd 'Llan Garw Gwyn' ac yna 'Llan Garw'. Ceir hen chwedl am sefydlu'r eglwys, sef "chwedl y carw gwyn".
Mae nifer o nodweddion y tu mewn yn goroesi o'r oesoedd canol, gan gynnwys murlun gyda'i lun dychrynllyd o "Angau", sy'n deillio o'r 18ed ganrif, sef ysgerbwd gyda phicell, awrwydr ac offer torri beddau. Ceir hefyd "oriel ganu" a'i stondin gerdd bedrochrog.
Heddiw, mae’r tu allan i’r eglwys wedi cael ei pheintio’n wyn, fel mwyafrif yr eglwysi lleol hyd at y cyfnod Fictoraidd.
Mae'r gwaith adfer wedi cadw addurniadau Sioraidd Llangar: y pulpud trillawr uchel; y corau bocs ar gyfer bonedd a’r meinciau garw ar gyfer meidrolion y llawr; yr oriel ganu (y galeri) a’i stondin gerdd bedair-ochrog. Darganfuwyd nifer o nodweddion cynharach yn ogystal, megis y to coed canoloesol a’i ‘ganopi anrhydedd’ ar ffurf crymdo uwchben yr allor. Ail-ddarganfuwyd ac adferwyd wyth haen o furluniau, yn amrywio o seintiau canoloesol a ‘Phechodau Marwol’ mewn fframiau o goed peintiedig i lun Angau o’r 18g, gyda’i bicell, awrwydr ac offer torrwr beddau. Dyma, felly bum canrif o hanes yn cael eu dadlennu heb amharu arawyrgylch grymus y man unig, hudolus hwn.
Mae'r egwlys yng ngofal Cadw ac cheir teithiau tywys o'i chwmpas.[1]