Eglwysi Catholig y Dwyrain

Cangen o eglwysi Cristnogol dwyreiniol yw eglwysi Catholig y Dwyrain sydd yn olrhain eu hanes i draddodiadau neilltuol ond sydd wedi sefydlu cymundeb â'r Eglwys Babyddol, neu'r Eglwys Ladin. Tair eglwys ar hugain ydynt a chanddynt statws arbennig wedi ei gadarnhau gan ddyfarniad Orientalium ecclesiarum (1964) yn ystod Ail Gyngor y Fatican. Maent yn cydnabod y Pab yn Rhufain yn bennaeth ar yr eglwys, ond yn cadw nifer o draddodiadau a nodweddion unigryw, parthed litwrgi, celfyddyd, a threfniadaeth.

Yn yr 21g, roedd dros 12 miliwn o Gatholigion Dwyreiniol ledled y byd.[1]

  1. (Saesneg) Eastern rite church. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 21 Ionawr 2017.

Developed by StudentB