Eigr

Mam y brenin Arthur yn ôl traddodiad oedd Eigr (Lladin: Igerna, hen Ffrangeg Igerne, yn ddiweddarach Ygraine, Saesneg: Igraine). Yn y chwedl fel y'i hadroddir gan Sieffre o Fynwy yn yr Historia Regum Britanniae, mae'n wraig i Gorlois, Dug Cernyw.

Syrth Uthr Bendragon, brenin Ynys Brydain, mewn cariad ag Eigr mewn gwledd i ddathlu buddugoliaeth. Caiff gymorth y dewin Myrddin, sy'n newid ffurf Uthr fel bod Eigr yn meddwl mai ei gŵr ydyw. Mae Uthr yn cysgu gydag Eigr yng Nghastell Tintagel, a chenhedlir Arthur. Lleddir Gorlois yr un noson, ac mae Uthr yn priodi Eigr. Yn nes ymlaen, gwenwynir Uthr, ac mae Arthur yn ei ddilyn ar yr orsedd.


Developed by StudentB