Math | dinas, urban commune of Morocco, dinas fawr |
---|---|
Poblogaeth | 237,464 |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Talaith El Jadida |
Gwlad | Moroco |
Arwynebedd | 7.5 ha |
Cyfesurynnau | 33.2342°N 8.5228°W |
Dinas hanesyddol ar arfordir Cefnfor Iwerydd Moroco yw El Jadida (neu El-Jadida). Wedi'i lleoli yn rhanbarth Doukhala-Abda, tua 90 km i'r de o Gasablanca, El Jadida yw porthladd Marrakech a'r cylch. Mae ganddi boblogaeth o tua 150,000 (2001).
Mae El Jadida yn ddinas a sefydlwyd gan y Portiwgaliaid yn 1513 dan yr enw Mazagan. Ceir nifer o adeiladau hanesyddol diddorol yn yr hen ddinas, o gwmpas y gaer sy'n dominyddu'r harbwr; La Cité Portugaise. Cipiwyd y ddinas oddi ar y Portiwgaliaid gan y Swltan Sidi Mohamed ben Abdallah yn 1769. Dinistriodd y Portiwgaliaid furiau'r gaer cyn ddianc ond fe'i hailgodwyd gan y Swltan Moulay Abd ar-Rahman yn 1820.
Bellach mae El Jadida yn ganolfan gwyliau lleol. Y diwydiant pwysicaf yw pysgora a phrosesu sardîns ac mae'r cefn gwlad o gwmpas y ddinas yn ardal amaethyddol lewyrchus. Mae'r hen ddinas ar restr UNESCO o Safleoedd Treftadaeth y Byd.
Mae traethau braf El Jadida yn denu miloedd o Forociaid o'r dinasoedd cyfagos yn yr haf.
Ganwyd y llenor Driss Chraïbi yn El Jadida yn 1926.