Enghraifft o'r canlynol | math o ronyn cwantwm |
---|---|
Math | lepton gwefredig, elementary particle |
Y gwrthwyneb | twll electron |
Màs | 0 ±2.8e-40 cilogram, 0.000548579909065 ±1.6e-14 uned Dalton, 0.51099895 ±1.5e-10, 0 ±1.1e-38 cilogram |
Dyddiad darganfod | 1897 |
Olynwyd gan | muon |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Un o ronynnau elfennol y Bydysawd yw’r electron sydd yn ffynhonnell ac yn fodd trosglwyddo trydan. Mae ganddo wefr drydanol o un uned sylfaenol negatif (−1.602 176 634 × 10−19[1] Coulomb) a màs o 9.109 × 10−31[2] kg (tua 1836 gwaith yn llai na màs y proton). Fe’i nodir gan y symbolau e−, β− neu . Mae ganddo swyddogaeth, hefyd, mewn magnetedd a throsglwyddo gwres. Mae’n rhan hanfodol o bob atom a, thrwy hynny, trosglwyddo electronau yw hanfod gwyddor Cemeg (ac eithrio mathau o gemeg niwclear). Mae i’r electron rôl mewn adweithiau disgyrchol, electromagnetig a’r grym gwan. Ynghyd a’r ffoton (goleuni), mae’n debyg mai’r electron yw’r gronyn elfennol yr ydym mwyaf cyfarwydd â’i bresenoldeb yn ein profiadau beunyddiol.
Ym Model Safonol[3] ffiseg gronynnau, yr electron yw cenhedlaeth gyntaf (ag iddo wefr) y Leptonau. Nid oes iddo isadeiledd. Yn debyg i bob gronyn elfennol arall, gall yr electronau ymddwyn fel gronynnau ac fel tonnau (ee gellir eu diffreithio megis golau).