Elidir Lydanwyn | |
---|---|
Ganwyd | 5 g |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | brenin neu frenhines |
Tad | Meirchion Gul |
Priod | Santes Gwawr |
Plant | Llywarch Hen |
Pennaeth o'r Hen Ogledd oedd Elidir Lydanwyn (fl. 6g). Yn ôl traddodiad, roedd Elidir yn un o ddisgynyddion y Brenin Coel Hen ac yn dad i Lywarch Hen. Fe'i cysylltir â theyrnas Rheged yn yr Hen Ogledd ac mae'n bosibl y bu'n frenin ar y deyrnas honno am gyfnod.
Yn yr achau traddodiadol a geir yn y testun Cymraeg Canol Bonedd Gwŷr y Gogledd, ceir llinach Llywarch Hen:
Mae disgynyddion eraill Coel Hen yn cynnwys Urien Rheged, Llywarch Hen, Clydno Eidyn, Pabo Post Prydain, Eliffer Gosgorddfawr a Gwenddolau. Roedd Elidir yn frawd i Gynfarch, tad Urien Rheged.
Yn ôl y testun De Situ Brecheiniauc, priododd Elidir â Gwawr ferch Brychan Brycheiniog, a chafwyd Llywarch Hen o'r briodas.
Yn ôl y traddodiad a geir yn nhestunau fersiwn Gwynedd o Gyfraith Hywel, yr oedd Elidyr Lydanwyn yn frenin Rheged ac yn briod â chwaer Rhun ap Maelgwn Gwynedd. Hawliodd Elidir orsedd teyrnas Gwynedd, ond pan ymwelodd a'r deyrnas lladdwyd ef gan wŷr Arfon yn Aber Meweddus, ger Clynnog. I ddial ei farwolaeth, ymosodwyd ar Wynedd gan ei ddau gefnder, Rhydderch Hael o Ystrad Clud a Clydno Eiddin. Dywedir i'w byddin hwy ddiffeithio Arfon, ac i ddial am hyn arweiniodd Rhun fyddin i'r Hen Ogledd cyn belled ag Afon Forth.
Yn y casgliad o draddodiadau Cymreig a Brythonig Trioedd Ynys Prydain, cofnodir Llywarch Hen mab Elidir Lydanwyn yn un o 'Dri Lleddf Unben Ynys Prydain', gyda Manawydan a Gwgon Gwron mab Peredur.