Elisabeth I, brenhines Lloegr | |
---|---|
Ganwyd | 7 Medi 1533 Palas Placentia |
Bu farw | 24 Mawrth 1603 (yn y Calendr Iwliaidd) Palas Richmond |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Lloegr |
Tad | Harri VIII |
Mam | Ann Boleyn |
Llinach | Tuduriaid |
llofnod | |
Bu Elisabeth I (7 Medi 1533 – 24 Mawrth 1603) yn frenhines Teyrnas Lloegr a Theyrnas Iwerddon rhwng Tachwedd 1558 hyd at ei marwolaeth ym 1603. Roedd yn ferch i Harri VIII ac Anne Boleyn, sef ail wraig Harri VIII, ac yn hanner chwaer i Edward VI a Mari I. Dienyddiwyd Anne Boleyn pan oedd Elisabeth yn blentyn. Cyhoeddwyd bod Elisabeth yn blentyn anghyfreithlon, ac ar farwolaeth Edward VI ym 1553 trosglwyddwyd y goron i’r Fonesig Jane Grey ac anwybyddwyd hawl ei chwiorydd i’r orsedd, sef Mari ac Elisabeth. Disodlwyd Jane Grey ar ôl naw diwrnod ac esgynnodd Mari I i’r orsedd. Yn ystod teyrnasiad Mari, carcharwyd Elisabeth yn Nhŵr Llundain am bron i flwyddyn oherwydd drwgdybiwyd ei bod yn cefnogi gwrthryfelwyr Protestannaidd, ond pan fu farw Mari I enwodd Elisabeth fel ei hetifedd.[1]
Daeth Elisabeth yn Frenhines pan oedd hi'n 25 mlwydd oed. Wedi iddi ddod i’r orsedd ailsefydlodd y ffydd Brotestannaidd, ac felly Protestaniaeth oedd crefydd swyddogol y deyrnas. Dibynnai’n drwm ar gyngor cylch mewnol o gynghorwyr a arweiniwyd gan William Cecil, Barwn 1af Burghley. Roedd teyrnasiad Elisabeth, neu Oes Elisabeth fel y'i gelwir, yn gyfnod cythryblus. Roedd cyffro ac anghytuno crefyddol, a llygaid brenin Ffrainc a brenin Sbaen ar deyrnas Lloegr gan fod Elisabeth yn ddibriod ac yn ddietifedd. Ym 1570 esgymunwyd hi gan y Pab, a gyhoeddodd hefyd ei bod yn blentyn anghyfreithlon ac nad oedd yn rhaid i’w deiliaid fod yn ffyddlon iddi fel eu brenhines. Arweiniodd hyn at nifer o gynllwynion i beryglu ei bywyd a ddarganfuwyd gan wasanaeth cudd ei phrif ysbïwr, Syr Francis Walsingham. Yn ystod ei theyrnasiad bu bygythiadau i geisio cipio ei choron yn gyson, adeg ymosodiad yr Armada Sbaenaidd gan Felipe II, brenin Sbaen a bygythiad o’r gogledd gan Mari Brenhines yr Alban.
Mae Elisabeth yn enwog am beidio priodi, er bod nifer o ddynion wedi gofyn iddi eu priodi. Roedd yn wleidydd craff a chlyfar, yn annibynnol ei phersonoliaeth ac yn benderfynol o ddangos bod ganddi, fel menyw, y sgiliau i reoli a theyrnasu'n gadarn lawn cystal â dyn. Bu farw Elisabeth ym 1603, gan ddod â diwedd i oes y Tuduriaid oherwydd ni chafodd Elisabeth blentyn. Daeth Iago I yn Frenin ar ôl Elisabeth. Pan fu Elisabeth I farw ym 1603 hi oedd yr aelod olaf o linach y Tuduriaid i reoli, a daeth Oes y Tuduriaid i ben.
Roedd pobl oedd â chysylltiadau â Chymru ymhlith ei phrif gynghorwyr a’i chylch mewnol o ffrindiau. Daeth William Cecil (un o ddisgynyddion y teulu Seisyllt o Went)[2] yn brif gynghorydd i Elisabeth I. Fe’i olynwyd gan ei fab Robert, a ddarganfu “Gynllwyn y Powdr Gwn” yn erbyn Iago I. Prif gydymaith Elisabeth oedd Blanche Parry o Sir Faesyfed. Dyn dylanwadol arall yn y llys oedd John Dee – mathemategydd, seryddwr, astrolegydd a dewin. Fe gynghorodd y frenhines i sefydlu trefedigaethau Seisnig dramor, a chredir mai ef a fathodd y term “yr Ymerodraeth Brydeinig”.[3]
Mewn materion polisi tramor, roedd Elisabeth yn bwyllog ac yn aml yn ceisio cadw’r ddysgl yn wastad rhwng y prif bwerau ar gyfandir Ewrop, sef Ffrainc a Sbaen. Simsan oedd ei hymdrechion i gefnogi’r Protestaniaid yn yr Iseldiroedd gydag adnoddau milwrol. Ond mae ei buddugoliaeth yn erbyn Armada Sbaen ym 1588 yn cael ei chlodfori fel un o’r buddugoliaethau milwrol pwysicaf yn hanes Lloegr.
Clodforwyd ei theyrnasiad fel yr Oes Elisabethaidd oherwydd y llewyrch ym marddoniaeth a dramâu William Shakespeare a Christopher Marlowe a llwyddiannau morwrol Francis Drake a Walter Raleigh. Tuag at ddiwedd ei theyrnasiad, lleihawyd ei phoblogrwydd oherwydd problemau economaidd a milwrol, ond roedd yn bersonoliaeth garismataidd a oedd wedi llwyddo i gadw a chynnal undod ei theyrnas mewn oes pan oedd rhwygiadau mewnol wedi peryglu sefydlogrwydd brenhinoedd mewn gwledydd eraill. Bu ei 44 mlynedd ar yr orsedd yn gyfnod a ddaeth â chadernid i’w theyrnas ac a helpodd i ffurfio hunaniaeth genedlaethol.[1]