Elisabeth II | |||||
---|---|---|---|---|---|
Pennaeth y Gymanwlad | |||||
Portread ffurfiol, 1959 | |||||
Brenhines y Deyrnas Unedig ac eraill teyrnasoedd y Gymanwlad | |||||
6 Chwefror 1952 – 8 Medi 2022 | |||||
Coronwyd | 2 Mehefin 1953 | ||||
Rhagflaenydd | Siôr VI | ||||
Olynydd | Siarl III | ||||
Ganwyd | Dywysoges Elisabeth o Efrog 21 Ebrill 1926 Mayfair, Llundain, Lloegr | ||||
Bu farw | 8 Medi 2022 Castell Balmoral, Swydd Aberdeen, Yr Alban | (96 oed)||||
Claddwyd | 19 Medi 2022 Castell Windsor, Windsor, Berkshire, Lloegr | ||||
Priod | Y Tywysog Philip, Dug Caeredin (pr. 1947; bu farw 2021) | ||||
Plant | |||||
| |||||
Teulu | Windsor | ||||
Tad | Siôr VI | ||||
Mam | Elizabeth Bowes-Lyon | ||||
Crefydd | Protestannaidd | ||||
Llofnod |
Roedd Elisabeth II (Elizabeth Alexandra Mary; 21 Ebrill 1926 – 8 Medi 2022) yn Frenhines Y Deyrnas Unedig a teyrnasoedd y Gymanwlad o 6 Chwefror 1952 hyd ei marwolaeth. Bu'n teyrnasu dros 32 gwladwriaeth sofran yn ystod ei bywyd, gan wasanaethu fel brenhines 15 ohonynt ar amser ei marwolaeth. Ei theyrnasiad o 70 mlynedd a 214 diwrnod oedd yr hiraf o unrhyw frenin neu frenhines y Deyrnas Unedig neuDeyrnas Lloegr.[1] Roedd hi ymhlith y breninesau a'r brenhinoedd hiraf eu teyrnasiad yn y byd, a'r ail hiraf yn hanes gwledydd sofran y tu ôl i Louis XIV, brenin Ffrainc.
Ei theitl llawn oedd Elizabeth yr Ail, Brenhines, trwy Ras Duw, Deyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd yr Iwerddon a'i Theyrnasoedd a'i Thiriogaethau eraill, Pennaeth y Gymanwlad, Amddiffynnydd y Ffydd. Yn ogystal â bod yn Frenhines Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon, Elisabeth II oedd Pennaeth Gwladwriaethau Nghanada, Awstralia, Seland Newydd, Jamaica, Barbados, Bahamas, Grenada, Papua Gini Newydd, Ynysoedd Solomon, Twfalw, Sant Lwsia, Saint Vincent a'r Grenadines, Antigwa a Barbiwda, Belîs a Sant Kitts-Nevis, lle roedd hi'n cael ei chynrychioli gan Lywodraethwr Cyffredinol. Roedd hefyd yn Bennaeth y Gymanwlad.