Ernst Haeckel | |
---|---|
Ganwyd | Ernst Heinrich Philipp August Haeckel 16 Chwefror 1834 Potsdam |
Bu farw | 9 Awst 1919 Jena |
Dinasyddiaeth | Ymerodraeth yr Almaen, Gweriniaeth Weimar, Teyrnas Prwsia |
Addysg | doethuriaeth |
Alma mater |
|
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth | biolegydd, meddyg, swolegydd, athronydd, naturiaethydd, ecolegydd, adaregydd, academydd, pysgodegydd, botanegydd, fforiwr, ffotograffydd, llenor |
Swydd | rheithor Prifysgol Jena, rheithor Prifysgol Jena |
Cyflogwr | |
Tad | Carl Haeckel |
Priod | Anna Sethe, Agnes Huschke |
Plant | Walter Haeckel, Elisabeth Haeckel |
Gwobr/au | Medal Darwin, Medal Cothenius, Medal Darwin–Wallace, Medal Linnean, Bressa Prize |
Biolegydd o'r Almaen oedd Ernst Heinrich Philipp August Haeckel (16 Chwefror 1834 – 9 Awst 1919), weithiau von Haeckel. Bu'n gyfrifol am ddarganfod, disgrifio ac enwi miloedd o rywogaethau newydd, ac am ddyfeisio nifer o dermau megis phylum, ecoleg a'r Protista.
Gwnaeth Haeckel lawer i gyhoeddi syniadau Darwin yn yr Almaen, a datblygodd y theori fod datblygiad biolegol unigolyn o unrhyw rywogaeth yn ail-adrodd esblygiad y rhywogaeth honno.
Gabed ef yn Potsdam, yr adeg honno'n rhan o deyrnas Prwsia. Bu astudio meddygaeth yn ninas Berlin, gan ymgymhwyso fel meddyg, yna bu'n astudio swoleg ym Mhrifysgol Jena. Yn ddiweddarach daeth yn Athro anatomeg gymharol ym Mhrifysgol Jena, a bu yno am 47 mlynedd.